Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 19 Medi 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r ffaith bod niferoedd nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn uwch nag erioed yma yng Nghymru, a deallaf fod ymestyn y rhaglen 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i nyrsys cofrestredig wedi creu llawer o ddiddordeb ymysg nyrsys cymwysedig sy'n ystyried gyrfa yng Nghymru, a bod hyn wedi arwain at rai nyrsys yn cael swyddi ochr yn ochr â'r rheini a recriwtiwyd yn uniongyrchol gan sefydliadau'r GIG. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i olrhain straeon llwyddiant 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' er mwyn dysgu mwy am yr hyn a wnaeth iddynt ddewis gyrfa yng Nghymru, er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn?