Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 19 Medi 2018.
Wel, yng ngogledd Cymru, rwy'n ymwybodol o sgyrsiau parhaus ynglŷn â'r angen i wella ansawdd eu llety a ph'un a oes angen i'r gwasanaeth iechyd ei hun ei ddarparu neu beidio. Neu gellid creu partneriaeth, er enghraifft, gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chymdeithasau tai i helpu i fuddsoddi mewn cyfleuster a sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n well ac yn fwy rhagweithiol. Felly, mae'n broblem rwy'n ymwybodol iawn ohoni ac rwy'n bwriadu cymryd camau gweithredu pellach. Ac wrth gwrs, rydym yn cydnabod ein bod, yn wahanol i rai rhannau o'r DU, yn parhau i ddarparu llety am ddim ar gyfer meddygon yng nghyfnod sylfaen 1 yn ogystal. Felly, rwy'n cydnabod yr heriau. Dylai gwella'r cynnig olygu ein bod yn lle hyd yn oed yn fwy deniadol i bobl sydd eisiau dod ac ymrwymo i yrfa yma.