Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 19 Medi 2018.
Rwyf am eich atgoffa o'r ffaith eich bod wedi cydnabod bod yn rhaid i ni dderbyn na fydd rhai prosiectau yn llwyddo, os bydd hynny'n digwydd. Ond edrychwch, mae'r pwynt rydych yn ei wneud ynglŷn â newid diwylliannol yn bwynt rwy'n ei dderbyn yn llwyr. Ond bydd y gronfa drawsnewid yn arbennig yn ein helpu i hyrwyddo modelau gofal newydd. Bydd hynny'n rhan o greu newid diwylliannol, ond ni fydd yn gwneud hynny ynddo'i hun. Pe bawn yn dweud mai'r gronfa drawsnewid yw'r peth a fyddai'n cynhyrchu'r newid diwylliannol rydym eisiau ei weld, buaswn yn achosi i'r gronfa honno fethu o'r cychwyn, oherwydd mae'n ymwneud â llawer mwy na hynny mewn gwirionedd. Os edrychwch nid yn unig ar yr adolygiad, ond ar 'Cymru Iachach' ei hun, a derbyn y pedair prif golofn, mae rhan fawr o hynny'n ymwneud ag ymrwymiad y staff i helpu i ailstrwythuro ac ailgynllunio’r gwasanaeth. Nid yw hynny'n golygu un grŵp penodol o reolwyr, arweinwyr a chynllunwyr yn unig. Mae'n ymwneud â grŵp ehangach o staff yn cytuno mai hwy yw'r asiantau mwyaf effeithiol ar gyfer newid y gwasanaeth. Mae'n neges rwyf wedi'i rhoi'n rheolaidd wrth gyfarfod â staff a gwrando arnynt, a dweud, mewn gwirionedd, eu bod mewn sefyllfa freintiedig iawn, gan fod y cyhoedd yn ymddiried ynddynt mewn ffordd na fyddent byth yn ymddiried mewn unrhyw wleidydd yn y lle hwn, ac mae ganddynt gyfle i newid y system o'u profiad eu hunain a'u safbwynt eu hunain ynglŷn â ble mae gwastraff ac aneffeithiolrwydd a chyfle i wella. Mae sicrhau bod y newid diwylliannol yn iawn yn rhywbeth y byddant yn ei ddeall pan fydd wedi cael ei gyflawni, ond mae'n anos ei fesur. Serch hynny, os na allwn gynhyrchu'r newid diwylliannol, ni fyddwn yn cyflawni'r math o newid y credaf y bydd pawb, ni waeth beth yw eu plaid yn y lle hwn, eisiau ei weld ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol.