Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 19 Medi 2018.
Mewn gwirionedd, rwy'n falch dros ben o'ch clywed yn dweud nad ydych yn disgwyl i bob cais unigol fod yn llwyddiannus, oherwydd yr allwedd i sicrhau bod y GIG yn cael ei ad-drefnu yw'r angen inni fod yn barod i dderbyn methiant, a bydd rhai methiannau ar hyd y ffordd gyda phob un o'r prosiectau hyn. Ond rydych yn sôn am y prosiectau—rydych yn sôn am y gronfa drawsnewid a'r arian a ddaw ohoni, ond wrth gwrs, roedd yr arolwg seneddol yn ymwneud â chymaint mwy na hynny, oherwydd soniai am weddnewid diwylliannol o fewn y GIG, am y newid hwn tuag at ofal sy'n canolbwyntio llawer mwy ar rymuso staff, gan alluogi gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i weithio o ddifrif yn ei ystyr lwyraf. Felly, tra bo'r holl brosiectau hynny ar y gweill a'ch bod yn defnyddio arian trawsnewid i ariannu'r 40 prosiect penodol, sut arall y caiff y neges hon ei chludo ledled y GIG? Sut arall y cewch gefnogaeth gan staff cyffredin sydd angen gallu cynnal y weledigaeth genedlaethol honno: dyma ble rydym eisiau i'n GIG fod ymhen 10 mlynedd; dyma lle rydym eisiau i'r ffocws fod? Yr hen ganolfannau arbenigol, y meddylfryd seilo—mae angen cael gwared arnynt i gyd. Mae'n rhaid i ni edrych ar hyn mewn ffordd wahanol, ac mae hynny'n effeithio ar bawb, o'r porthor i'r meddyg ymgynghorol mwyaf arbenigol rydym yn ei gyflogi ar hyn o bryd ac wrth gwrs, drwy'r holl haenau rheoli.
Felly, er ein bod yn croesawu'r gronfa drawsnewid—a'r prosiectau—ni all weithio ar ei phen ei hun, oherwydd ni fyddwch ond yn trwsio darnau bach o'r broblem wrth inni symud ymlaen. Mae'n rhaid i chi allu ymdrin â'r strwythur yn ei gyfanrwydd ac nid wyf yn gweld hynny na'n teimlo hynny: o ble y daw'r bobl i alluogi hynny, oherwydd nid elfen yn ymwneud â chost yw hynny bob amser. Mae'n ymwneud â newid diwylliannol ac ailstrwythuro'r modd y mae pobl yn gwneud swyddi penodol heddiw, ac nid yw'n rhywbeth sy'n rhaid ei roi mewn prosiect o reidrwydd er mwyn cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn ddigwydd.