Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 19 Medi 2018.
Rwy'n cydymdeimlo'n aruthrol â'r teulu yn eu colled. Nid wyf am geisio defnyddio eu sefyllfa i gael cydnabyddiaeth na sgorio pwyntiau. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig, ym mhob achos o'r math hwn, yw bod yna adolygiad mewnol yn cael ei gynnal er mwyn darganfod beth ddigwyddodd a beth aeth o'i le. Yn gynharach, roeddem yn trafod cwestiwn arall ynglŷn ag effeithiau gwirioneddol a pharhaol pan fo gofal iechyd yn mynd o chwith, gan gynnwys y posibilrwydd y bydd pobl yn colli eu bywydau. Wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd pob rhan o'r gwasanaeth iechyd, nid gogledd Cymru yn unig, yn dysgu'n briodol o gamgymeriadau mewn gofal iechyd ac yn darparu'r sicrwydd y bydd pobl ei eisiau. Nid wyf am fachu ar gyfle i ddiswyddo pobl o fewn y gwasanaeth iechyd yn fympwyol, ond rwy'n disgwyl y bydd atebolrwydd priodol a gwersi'n cael eu dysgu, sef yr hyn y mae'r cyhoedd ehangach yn ei ddisgwyl rwy'n credu.