Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 19 Medi 2018.
Ie, credaf eich bod yn iawn fod angen amrywiaeth o ddulliau i fynd i'r afael â'r broblem, ac rwy'n falch o glywed eich bod yn o ddifrif ynghylch presgripsiynu cymdeithasol. Nawr, fel y dywedais, rwy'n credu bod defnyddio'r dull hwn yn syniad da. Fodd bynnag, rhan o'r broblem gyda darparwyr presgripsiynu cymdeithasol yw bod llawer o weithgareddau yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr a'r sector elusennol, felly gallant fod yn agored i newidiadau cyllido dros y tymor hwy. A yw'r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i glustnodi cyllid ar gyfer rhai o'r prosiectau hanfodol hyn yn y dyfodol?