Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:41, 19 Medi 2018

Mi ydych chi, wrth gwrs, yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad yma yn aml eich bod chi'n teimlo bod gwelliannau'n digwydd mewn sawl maes, ond mae'n amlwg i fi bod yna rywbeth yn floc yn y system. Wn i ddim a ydy'n floc cyllidol neu floc o ran rheoli, neu a oes yna broblem sydd yn fwy creiddiol sydd angen mynd i'r afael â hi. Rydym ni'n sôn am yr angen i ddylifro gwasanaethau mwy a mwy yn y gymuned trwy feddygfeydd teulu a fferyllfeydd ac ati, ond mae gen i ofn mai symud i'r cyfeiriad arall yr ydym ni o ran defnydd adnoddau, efo ysbytai, sydd o dan bwysau mawr, wrth gwrs, yn cymryd mwy a mwy o siâr o'r gacen.

Rydw i'n gwybod nid ar chwarae bach y mae newid strwythurau, ond rydw i yn meddwl bod yr amser wedi dod i gael gwared ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydw i'n cynnig mai'r hyn sydd ei angen ydy ei rhannu fo, nid yn ddaearyddol, ond ei rhannu fo yn haenau—yn ysbytai a gofal sylfaenol. Mi fyddai cyllidebau gofal sylfaenol yn cael eu gwarchod a'r bwrdd gofal sylfaenol yn gallu creu model newydd o integreiddio go iawn efo gofal cymdeithasol, tra bo'r ysbytai yn gallu canolbwyntio ar eu heriau hwythau. A oes gan y Llywodraeth, fel finnau, yr awydd i chwilio am atebion o'r newydd?