Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 19 Medi 2018.
Wrth gwrs fy mod eisiau gweld Betsi Cadwaladr yn llwyddo. Rwyf eisiau i'r bwrdd iechyd gyflawni gofal iechyd o'r math o ansawdd y byddai pob un ohonom, ym mhob cymuned, yn ei ddisgwyl. Nid yw'r mwyafrif llethol o staff o fewn y bwrdd iechyd yn cefnogi eich argymhelliad i rannu'r bwrdd iechyd—rydym wedi bod drwy hyn mewn ymatebion ganddynt. Ac nid wyf yn credu y byddai'r ailstrwythuro rydych yn ei awgrymu yn darparu gwasanaeth gwell. Rydym wedi ceisio rhannu ysbytai a gofal sylfaenol yng Nghymru yn y gorffennol, ac ni lwyddodd hynny i ddarparu'r math o welliant roeddem ei eisiau. Nid yw rhannu ymddiriedolaethau ysbytai a gofal sylfaenol wedi sicrhau'r math o welliant y byddai pawb ei eisiau yn Lloegr ar draws y system gyfan chwaith. Felly, buaswn yn cymell yr Aelod i bwyllo rhag awgrymu y bydd y math hwnnw o ailstrwythuro yng ngogledd Cymru yn darparu'r canlyniadau y byddai pob un ohonom, rwy'n credu, yn dymuno eu gweld yn y pen draw.