Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd iechyd, ond un peth na wnaethoch sôn amdano oedd ansawdd llety ar gyfer staff y GIG, a ddarperir gan y byrddau iechyd yn aml iawn. Yr adborth rwyf wedi'i dderbyn gan staff yng ngogledd Cymru dros y misoedd diwethaf yw bod ansawdd y llety yn gwbl warthus a bod hynny'n atal pobl rhag ceisio dod i weithio yn y rhan honno o'r wlad. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa gamau rydych yn bwriadu eu cymryd, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau bod llety gweddus yn cael ei ddarparu ar gyfer staff y GIG lle mae byrddau iechyd yn gyfrifol am lety. Mae gennym safon ansawdd tai Cymru, sy'n berthnasol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, ond nid yw'n ymddangos ei bod yn berthnasol i ansawdd llety byrddau iechyd. Pa waith rydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau ein bod yn codi safonau yn hyn o beth?