Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 19 Medi 2018.
Soniais cyn hynny, yn amlwg, fod hon yn drwydded fyw, felly mae'n fater ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, a gellir parhau i gyfeirio pryderon atynt hwy. Rwy'n meddwl eu bod wedi cymryd y cam o wneud datganiad cyhoeddus, gan wneud yn siŵr fod amrywiaeth sylweddol o ddogfennaeth y broses o wneud penderfyniadau wedi'i rhoi ar y wefan er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd. Ac fel y dywedaf, fe wneuthum hynny hefyd yn y ddadl a gawsom y tymor diwethaf.