Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n deall y cyfyngiadau ar Ysgrifennydd y Cabinet, ond roeddwn am ddefnyddio'r cyfle i fynegi'r pryder yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd. Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi ac mae wedi cael ei godi mewn nifer o gyfarfodydd y bûm ynddynt. Ceir pryder am ddiogelwch yng Nghaerdydd, felly rwy'n teimlo y dylem wneud popeth yn ein gallu i archwilio, ym mha bynnag fodd y gallwn, er mwyn tawelu meddyliau pobl os oes angen. Os yw'n ddiogel, yna mae angen inni allu gwneud hynny.
Fe siaradais er mwyn codi'r materion hyn yn y Pwyllgor Deisebau ar 23 Mai. A gwn fod rhagor o wybodaeth yn cael ei geisio bellach am Hinkley A, y gwyddom ei fod wedi'i ddatgomisiynu, ond bod Magnox Electric, a oedd yn berchen ar y safle Hinkley gwreiddiol ar y pryd, wedi cael dirwy o £100,000 yn 2001 am dorri deddfwriaeth waredu gwastraff niwclear a chynnal a chadw safleoedd. Felly, yn amlwg, mae'n destun pryder i aelodau o'r cyhoedd wybod bod hynny wedi digwydd.
Hefyd, rwyf am ategu'r cwestiwn ynglŷn â pham y dewiswyd y lle penodol hwn ar gyfer dympio 2 km yn unig, rwy'n credu, o'r lan. A beth yw'r manteision i ni yn ne Cymru o gael y mwd hwn wedi'i ddympio yma? Pa fath o drafodaethau neu ddadleuon a ddigwyddodd ynghylch y penderfyniad hwnnw? Felly, rwy'n awyddus iawn i weld unrhyw dystiolaeth wyddonol bellach y gellid ei chael yn dod i law, a gwn fod yr Athro Barnham wedi codi'r materion hyn, felly buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i wneud popeth a all i fynd i'r afael â phryderon y cyhoedd am y peryglon posibl.