6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Safonau Ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:50, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Wrth gwrs, rydym wedi gweld nifer o newidiadau a diwygiadau dros y blynyddoedd, yn enwedig dros ddau dymor diwethaf y Cynulliad efallai. Rydym wedi gweld yr adolygiad o'r system gymwysterau, rydym wedi gweld adolygiad parhaus yn awr o'r cwricwlwm cenedlaethol, rydym wedi gweld newidiadau i anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal, wrth gwrs. Ac fel y clywsom, oherwydd maint a chymhlethdod y newidiadau diweddar hynny, mae Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru yn ein hatgoffa'n rheolaidd y dylem fod yn ofalus wrth ddod i unrhyw gasgliadau yn sgil cymharu canlyniadau o un flwyddyn i'r llall. Wel, wyddoch chi beth? Rwyf wedi bod yma ers saith mlynedd bellach, ac nid wyf yn meddwl fy mod wedi cael un flwyddyn lle na chefais wybod ei bod hi'n anodd gwneud y cymariaethau hynny, ac mae hynny'n dangos i mi, rwy'n credu, y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gyson wedi diwygio, newid, symud y pyst gôl—fel y dylent, i raddau helaeth, rwy'n siŵr. Ond mae'n gwneud i mi feddwl tybed a fyddwn ni byth yn cyrraedd lefel o gysondeb yn y system lle gallwn wneud y mathau hynny o gymariaethau yn y dyfodol o bosibl.

A meddyliwch am yr athrawon sy'n gorfod ymdopi â'r newidiadau hynny yn y rheng flaen yn ddyddiol, ac wrth gwrs, mae'r newid mwyaf eto i ddod gyda diwygio'r cwricwlwm a'r newidiadau yn sgil hynny i gymwysterau a systemau asesu.

Mae yna eironi, rwy'n credu, yn y modd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicr o ddweud wrthym mewn munud na ddylem wneud y cymariaethau hynny o un flwyddyn i'r llall, ond yng ngwelliant y Llywodraeth, wrth gwrs, mae'n croesawu'r cynnydd yng nghanlyniadau mathemateg a mathemateg rhifedd A* i C yn TGAU. Wel, nid wyf yn siŵr y gallwn ei chael hi'r ddwy ffyrdd. Efallai y gallwn, ond wyddoch chi, beth y mae hynny'n ei wneud o ran drysu pobl ynglŷn â'n gallu i wneud cymariaethau ystyrlon?

Rhaid imi ddweud, o ystyried y gostyngiad enfawr yn nifer y cofrestriadau cynnar ar gyfer TGAU eleni o gymharu â'r llynedd—credaf fod tua 16 y cant o'r holl gymwysterau y llynedd yn gofrestriadau cynnar a bellach prin ei fod yn 4 y cant eleni—roeddwn yn gobeithio efallai y byddai hynny'n gwneud argraff ar y gyfradd sy'n llwyddo i gael A* i C yn gyffredinol, ond mae'n siomedig ein bod wedi gweld y prif ystadegyn i lawr eto eleni. Ac wrth gwrs, mae'r bwlch rhwng cyrhaeddiad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon—er y gallai fod cafeatau a rhybuddion, mae'n gymhariaeth y bydd pobl yn ei gwneud. Felly, efallai mai'r cwestiwn y dylem ei ofyn yw: os yw cymharu'n anodd, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu disgyblion, rhieni a'r cyhoedd yn ehangach ynglŷn â sut y gwnawn hynny?

Felly, er bod yn rhaid cyfaddef ei bod hi'n fwyfwy anodd gwneud cymariaethau blynyddol, credaf fod un peth yn amlwg iawn, sef, wrth gwrs, ei bod yn afrealistig ac yn annheg i Lywodraeth Cymru ac unrhyw un arall ddisgwyl gwelliant flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y perfformiad Safon Uwch a TGAU pan welwn gyllidebau ysgol o un flwyddyn i'r llall yn lleihau ac yn crebachu a'r adnoddau sydd ar gael yn mynd yn llai. Oni bai bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael cyllid tecach, nid wyf yn meddwl mewn gwirionedd y gallwn ddisgwyl i'n disgyblion wella'n gyson a chyrraedd eu potensial llawn.

Mae awdurdodau lleol, athrawon ac undebau athrawon yn dweud wrthym fod yr ysgolion bellach wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Yn sgil toriadau termau real o £300 y disgybl i'r cyllid ers 2009, mae'r undebau addysg yn dweud ein bod yn gweld cynnydd ym maint dosbarthiadau, mae'n arwain at orddibyniaeth ar gynorthwywyr addysgu, nad ydynt, wrth gwrs, yn cael eu talu'n briodol, mae'n arwain at effaith niweidiol ar y cwricwlwm, ac yn anochel bydd addysg disgyblion yn dioddef o ganlyniad. Felly, mae'n wyrth, mewn gwirionedd, eu bod yn cyflawni gystal ag y maent yn ei wneud o dan yr amgylchiadau hynny. Ac mae hynny wedi cael effaith ar forâl athrawon a disgyblion yn ogystal, ac mae cylch dieflig yno, onid oes? Gyda lefelau staffio'n gostwng fwyfwy mewn llawer o'n hysgolion, mae llwyth gwaith yr athrawon sy'n weddill yn uwch o lawer ac mae'r pwysau a'r straen yn rhwym o ddangos. Yn sicr, caiff ei adlewyrchu yn y ffordd y mae llai o bobl yn cael eu denu i'r proffesiwn yn awr, gyda niferoedd athrawon dan hyfforddiant newydd yn methu cyrraedd y targedau, nifer athrawon ysgolion uwchradd draean yn is na'r targed yn 2016-17, y targed ar gyfer athrawon cynradd dan hyfforddiant heb ei gyrraedd chwaith, a dywedodd traean o'r athrawon a ymatebodd i arolwg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg o'r gweithlu addysg eu bod yn bwriadu gadael y proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf. Ac wrth gwrs mae ffigurau Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru wedi dangos bod dros 15,000 diwrnod gwaith y flwyddyn bellach yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â straen.

Nawr, roedd maniffesto Plaid Cymru yn 2016 a gostiwyd yn llawn yn amlinellu sut y byddem yn cyflwyno nifer o fentrau, gan gynnwys taliad premiwm blynyddol i athrawon a thaliad yn ogystal i gynorthwywyr addysgu—rhaid inni beidio ag anghofio amdanynt hwy. Roeddem yn trafod canolbwyntio mwy ar ganiatáu amser ar gyfer hyfforddiant, mwy o bwyslais ar ddatblygiad proffesiynol parhaus, mwy o amser i baratoi ac i addysgu ac i farcio, ond wrth gwrs, mae hyn oll yn costio, ac rydym yn cydnabod hynny. Ond mae creu system addysg o'r radd flaenaf yn mynd i gostio arian, ac ni allwn dwyllo ein hunain y gallwn ei wneud mewn unrhyw ffordd arall. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, a nes y bydd hynny'n digwydd ni allwn ddisgwyl yn deg ac yn rhesymol i'n hathrawon a'n disgyblion gyflawni'r safonau a'r canlyniadau gwell y mae pawb ohonom am eu gweld.