Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 19 Medi 2018.
Y broblem gyda siarad ar y pwynt hwn mewn unrhyw ddadl—wel, hon yn sicr—yw bod llawer o bethau wedi cael eu dweud. Mae hanner yr Aelodau eisoes wedi rhoi cic i fwch dihangol y Democratiaid Rhyddfrydol, neu beth bynnag. Roeddent yn eiriau anffodus, ac nid fy ngeiriau i oeddent, Kirsty, ond geiriau Aelodau eraill. Ac yn awr mae David Melding wedi tynnu'r mat cadarnhaol o dan fy nhraed drwy sôn am rai o'r pethau da sydd wedi digwydd yng Nghymru. Felly, ychydig o amser sydd ar ôl gennyf i ychwanegu at y sylwadau da a aeth o'r blaen, heblaw dweud yr hoffwn innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i gael eu graddau yr haf hwn, yn ogystal â'r athrawon a'r rhieni a'u cefnogodd. Rwy'n gobeithio o leiaf fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi cael yr hyn oedd ei angen arnynt i symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfaoedd. Rwy'n falch iawn o glywed am eich perthynas, David Melding, ac yn dymuno'n dda iddi ym Mhrifysgol East Anglia.
Er bod nifer o ganlyniadau ar draws Cymru wedi bod yn siomedig, hoffwn dynnu sylw at rai o'r canlyniadau mewn ysgolion yn fy etholaeth fy hun, gan gynnwys fy hen ysgol, Croesyceiliog, a aeth yn groes i'r duedd genedlaethol ac a welodd welliant yng nghanran y myfyrwyr a gafodd bum gradd A* i C gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Yn yr arholiadau Safon Uwch, gwelodd Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol y Brenin Harri VIII gynnydd yng nghanran y myfyrwyr a gafodd dair gradd A* i C, gan godi i 75 y cant a 55 y cant yn eu tro, yn ogystal â gwelliant addawol yn y gyfradd lwyddo yng Nghas-gwent. Gwn fod gennych yr holl ffigurau hyn ar flaen eich bysedd, felly rydych yn gwybod am y rhain, Ysgrifennydd y Cabinet. [Torri ar draws.] Rwy'n mynd i roi'r gorau iddi yn y fan honno gyda'r ysgolion. Yn gyffredinol, gwelodd sir Fynwy welliannau ym mhob un o'r dangosyddion allweddol ar gyfer Safon Uwch, ond ar lefel TGAU, roedd ysgolion uwchradd sir Fynwy yn dilyn y duedd genedlaethol a gwelwyd gostyngiad yn y mesur pum gradd A* i C, felly credaf yr hoffwn glywed—a hoffai pawb ohonom glywed—gan Ysgrifennydd y Cabinet beth yw rhai o'r rhesymau pam y teimlwch ein bod yn gweld y dirywiad hwn ledled Cymru ar y lefel honno o gymhwyster.
O gofio ein bod yn ymdrin â chymwysterau newydd, sut y gallwch ein sicrhau y caiff safonau eu cynnal o flwyddyn i flwyddyn, a bod C a gafwyd yn 2016 o safon gyfartal i'r hyn a gafwyd yn 2017 neu 2018? Mae yna bryderon go iawn mewn ysgolion nad yw'r clwydi ar yr un uchder yn union. Os mai canfyddiad yn unig yw hynny, canfyddiad ydyw, ond mae'n un sydd angen ei ystyried a rhoi sylw iddo er mwyn inni allu cael hyder yn y system. Rwy'n sicr y byddech yn cytuno bod angen inni gael cymwysterau trylwyr a chadarn. Rhaid i raddio fod yn deg i bob grŵp blwyddyn hefyd fel y gall ein heconomi gael hyder yn yr hyn y mae'r graddau hynny'n ei olygu.
Nawr, fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddyn rhesymol ac yn debyg i David Melding, rhaid imi ddweud bod yna feysydd sy'n effeithio ar safonau mewn ysgolion lle mae Llywodraeth Cymru yn haeddu rhywfaint o glod. Yr wythnos diwethaf, ymwelodd y Prif Weinidog ag ysgol newydd sbon, Ysgol Gyfun Mynwy—prosiect gwerth £45 miliwn ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy a arweinir gan y Ceidwadwyr. Gwn fod yr hyn a gyflawnwyd yno wedi creu argraff ar y Prif Weinidog—adeilad syfrdanol ac enghraifft o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdod lleol i gyflawni yn ôl y model ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwyf hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfraniad pellach i fy awdurdod lleol yn y rownd nesaf o gyllid ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain mewn ymgais i uwchraddio peth o'r hyn sy'n weddill o rai o'r adeiladau gwaethaf, yn enwedig yn y sector uwchradd. Felly, edrychaf ymlaen at glywed am eich cynlluniau i barhau'r broses o ailgynllunio addysg drwy addasu adeiladau ein hysgolion.
Yn olaf, hoffwn ddweud ychydig am y bwlch cyllido y cyfeiriodd Aelodau eraill ato, ac rwy'n croesawu'r ffaith fod yna dderbyniad petrus o'r diwedd mewn gwelliant gan y Llywodraeth fod yna fwlch cyllido, er eich bod yn honni ei fod wedi lleihau, nid oherwydd unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, ond oherwydd penderfyniadau a wnaethpwyd yn Lloegr. Gydag addysg, nid wyf yn credu ei fod yn fater o daflu'r baich a beio Llywodraeth y DU, fel y clywn yn rhy aml. Yn amlwg, mae problem gydag arian yn gyffredinol, ond mae'n rhaid inni wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei dargedu yn y ffordd orau. Erys y ffaith bod bwlch cyllido wedi bod, ac yn parhau i fod, sy'n gannoedd o bunnoedd y disgybl, ac sydd, mewn ysgol gynradd gyfartalog o 210 o ddisgyblion, yn gallu golygu cymaint â £100,000 y flwyddyn. Mae hynny'n golygu athrawon ychwanegol, cynorthwywyr ychwanegol, offer technoleg gwybodaeth ychwanegol, yr holl bobl sy'n cyfrannu at y canlyniadau positif wrth i bobl ifanc gyrraedd eu potensial llawn. Dyna'r realiti ar lawr gwlad. Mae fy awdurdod lleol fy hun wedi cynyddu gwariant ysgolion fel cyfran o'i gyllideb, er iddo ddioddef rhai o'r toriadau dyfnaf o blith holl awdurdodau lleol Cymru o ran y swm cyffredinol—y grant cynnal refeniw—a gwyddom fod tanariannu cynghorau gwledig yn parhau i fod yn broblem. Fe wyddoch yn iawn, a chithau'n dod o etholaeth wledig, beth y gall hynny ei olygu.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, fel y clywsom yn y ddadl flaenorol, rydym yn aml yn clywed llawer o eiriau yn y Siambr hon sydd wedi'u bwriadu'n dda iawn, ond i aralleirio Lee Waters yn y ddadl flaenorol, rwy'n credu bod yr amser i siarad yn dod i ben yn gyflym ac mae gwir angen inni weld gweithredu a gwelliannau yn y meysydd hyn.