Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 19 Medi 2018.
Hoffwn ddweud ychydig eiriau yn awr am ymgynghoriad parhaus Llywodraeth Cymru, 'Brexit a'n tir'. Nawr, y tro diwethaf y bu'r Llywodraeth yn ystyried newidiadau mawr i daliadau fferm yng Nghymru, aethant ati i asesu faint y byddai pob busnes, pob sector, pob sir yng Nghymru yn ei golli neu'n ei ennill drwy fodelu cynhwysfawr iawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau allweddol. Nawr, y newidiadau arfaethedig diweddaraf hyn yw rhai o'r newidiadau mwyaf a welsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sicr, os nad dros y genhedlaeth hon mae'n debyg. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa asesiadau a wnaed y tro hwn o faint y gallai Ynys Môn, Ceredigion, sir Gaerfyrddin, ei ennill neu ei golli, ei effaith ar swyddi yn y siroedd hynny a siroedd eraill, cyn mynd ymhellach ar drywydd y polisi hwn na chafodd ei weithredu erioed o'r blaen, oherwydd nid wyf yn ymwybodol fod y gwaith hwnnw wedi'i wneud.
Yn ogystal fe wyddom fod yr Alban yn dal at y taliad sylfaenol ar gyfer eu ffermwyr. Mae Gogledd Iwerddon yn debygol o wneud yr un peth hefyd a bydd ffermwyr ledled yr Undeb Ewropeaidd yn ei gael hefyd. Mewn gwirionedd, oherwydd canlyniadau ariannol Brexit i'r UE, ymddengys y bydd eu cyllid colofn 2 yn cael ei dorri ac y bydd eu taliadau uniongyrchol yn cael eu clustnodi, felly wyddoch chi, bydd ffermwyr yr UE yn well eu byd mewn cymhariaeth oherwydd Brexit. Ond mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn mynd y ffordd arall ac yn bwriadu cael gwared ar y taliadau sylfaenol. Enw papur safbwynt Llywodraeth yr Alban, os cofiaf yn iawn, yw, 'Stability and Simplicity'. Wel, roedd rhywun yn awgrymu y dylid galw cynigion Llywodraeth Cymru yn 'Ansefydlogrwydd a Chymhlethdod' o bosibl. Y cyfan a wnewch yw dilyn polisi Michael Gove a'r Torïaid yn Lloegr fel y defaid diarhebol, ac mae'n rhaid i mi gwestiynu dilysrwydd eich proses ymgynghori yma. Gwn eich bod wedi honni mai mythau yw'r hyn y bu Undeb Amaethwyr Cymru yn ei ddweud—wel, nid dyna ydynt; maent yn bryderon dilys. Efallai fod yna wahaniaeth barn, ond maent yn bryderon dilys gan randdeiliaid allweddol. A yw'n wir fod eich llythyr at ffermwyr, hanner ffordd drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus—? A yw'n iawn eich bod chi fel Ysgrifennydd Cabinet yn ymyrryd i ddylanwadu ar safbwyntiau pobl ac yn diystyru'r hyn sy'n bryderon dilys yn fy marn i gan randdeiliaid allweddol? Rydych yn dweud yr hoffech glywed safbwyntiau pobl, ond wedyn rydych yn ysgrifennu ac mae'n ymddangos i mi nad ydych yn barod i glywed barn pobl oni bai eu bod yn cytuno â chi. Ac roedd yn arwyddocaol iawn, rhaid imi ddweud, eich bod yn dweud yn y datganiad a aeth gyda'ch llythyr agored i ffermwyr yng Nghymru, a dyfynnaf:
'Bydd ein rhaglen Rheoli Tir newydd yn cynnwys dau gynllun mawr hyblyg'.
'Bydd yn cynnwys'. Felly, a yw'r penderfyniad wedi'i wneud eisoes? Roeddwn yn meddwl mai ar ganol ymgynghoriad yr oeddem. Yn wir, mae eich gwelliant yn adlewyrchu'r un iaith yn union. Felly, gyda'ch ymyrraeth ddigynsail a'r math o iaith a welwn—hynny yw, nid wyf yn siŵr a ydym yn nhiriogaeth adolygiad barnwrol. Nid fi sydd i ddweud; mae hynny i eraill ei ystyried. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn eich annog i arafu eich argymhellion, dilynwch esiampl yr Alban, Gogledd Iwerddon a gweddill yr UE a chynnig sefydlogrwydd i ffermwyr Cymru. Ar yr adeg fwyaf heriol hon yn ein hanes diweddar, gadewch i ni o leiaf roi elfen o sicrwydd o gyllid i'n ffermwyr a gadewch i ni roi chwarae teg iddynt fan lleiaf.