Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i gyfeirio Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, sy'n berthnasol i'r pwnc yma, wrth gwrs? Ac a gaf i gychwyn drwy resynu at yr iaith y mae UKIP yn ei defnyddio yn eu cynnig, fel rydym ni wedi'i chlywed? Mae'n gychwyn ymfflamychol i drafodaeth y mae nifer ohonom ni wedi bod yn trio ei hannog mewn modd adeiladol a phositif dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i'n credu ei bod hi'n gwbl anghyfrifol i gyflwyno'r ddadl rydych chi'n ei gwneud gan ddefnyddio'r iaith yr ydych chi yn ei gwneud. Mae yna lawer mwy o gonsensws a thir cyffredin rhwng amaethwyr ac amgylcheddwyr nag, yn amlwg, rŷch chi'n meddwl sydd yna.
Felly, ni fydd yn syndod i chi bod Plaid Cymru yn argymell yn ein gwelliant ni ein bod ni'n dileu'r cyfan o'r cynnig, ond mi ydym ni, wrth gwrs, yn ein gwelliant yn tanlinellu pwysigrwydd ffermydd defaid yn ucheldir Cymru fel rhan gwbl allweddol o'n heconomi ni, ond rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn tanlinellu peryglon gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau a'r difrod diamheuol y bydd hynny yn ei greu i ffermydd yr ucheldir. Nid dim ond defaid a fydd wedi gadael yr ucheldir mewn blynyddoedd i ddod. Yn sgil Brexit, mae’n bosib y bydd pobl yn gadael yr ucheldir, oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael ar hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru. Rŷm ni wedi clywed yr ystadegau mewn nifer o ddadleuon yn y Siambr yma: 96 y cant o gig oen Cymru sy’n cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd; sôn am dariffau allforio a fydd yn cael eu cyflwyno a fydd, wrth gwrs, yn cael effaith negyddol. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi bod yn glir ac yn gyson ein bod ni am gadw ein haelodaeth a’n statws o fewn y farchnad sengl, ac, yn wir, y ffordd orau i wneud hynny yw aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Ond, os ydym ni yn gadael ac yn colli ein haelodaeth o’r farchnad sengl, yna, yn amlwg, mae angen mesurau cryf i amddiffyn buddiannau amaeth yng Nghymru, yn enwedig ein ffermydd ar yr ucheldiroedd.