– Senedd Cymru am 6:12 pm ar 19 Medi 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar safonau ysgolion. Rwy'n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal a 35 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal a 23 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 2—galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal a dau yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3—galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal ac un yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 3.
Pleidlais nawr, felly, ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6776 fel y'i digwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu:
a. bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;
b. bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;
c. bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;
d. bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.
2. Nodi:
a. rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;
b. bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a
c. casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal ac 16 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl UKIP ar dda byw yn yr ucheldir, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal a 48 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Gwelliant 1—os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Gwelliant 2. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galw am bleidlais, felly, ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid chwech, un yn ymatal, 45 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3, felly. Galw am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei gymeradwyo.
Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Agor y bleidlais.
Cynnig NDM6779 fel y'i diwygiwyd:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod canlyniad refferendwm Brexit a’r heriau masnach a fydd yn deillio ohono i ffermio ucheldir Cymru yn golygu bod angen i ni edrych tua’r dyfodol, ac nid i’r gorffennol, gan ddatblygu model cymorth newydd ar gyfer rheolwyr tir.
2. Yn nodi canlyniadau gwahanol ymarferion cynllunio senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr ucheldir os bydd y DU yn ymadael â’r farchnad sengl a’r undeb tollau.
3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.