Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 25 Medi 2018.
At yr ail thema, mae'r broses o ddiogelu a gwarchod ein hamgylchedd hanesyddol yn dibynnu ar ddealltwriaeth o'i briodweddau arbennig a set o sgiliau crefft cadwraeth benodol. Rwy'n awyddus iawn i gefnogi camau i feithrin y ddealltwriaeth honno a datblygu'r sail sgiliau ymarferol. Er mwyn gwneud hyn, bydd raid prif ffrydio sgiliau crefft treftadaeth yn y diwydiant adeiladu ehangach ac yn y cwricwlwm sgiliau, ac adeiladu ar yr enghreifftiau sefydledig sydd i'w gweld eisoes o fewn cyrsiau'r meysydd llafur yma.
Er mwyn cyflawni'r drydedd thema—trysori a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol gwerthfawr—rydw i am annog llawer mwy o bobl i ymweld â'n safleoedd hanesyddol ac i'w gwneud hi'n haws iddyn nhw i gyd, beth bynnag fo'u hanghenion neu'u galwadau personol, wneud hynny.
Mae niferoedd ymweld yn bwysig. Yn ystod 2016-17, fe ymwelodd dros 1.4 miliwn o bobl â 24 o safleoedd Cadw sydd wedi'u staffio. Fodd bynnag, mae yna gyfle inni wneud mwy i annog ymwelwyr iau, ac rydw i’n awyddus i weld mwy o weithgareddau'n cael eu cynnal i'r teulu yn henebion Cadw a deunydd dehongli diddorol. A dyna yw ystyr digwyddiadau difyr megis agor Drysfa Gilbert a Ffau'r Dreigiau yng nghastell Caerffili, ym mhresenoldeb yr Aelod Cynulliad lleol, wrth gwrs. Roedd y rhyfeddod ar wynebau'r plant a'r oedolion yn brofiad llawen iawn ac amhrisiadwy i mi.
Hefyd, mae angen inni barhau i wella mynediad i'r rhai sydd â chwestiynau a phroblemau ynglŷn â symud, a gwneud hynny mor effeithiol ag y gallwn ni. Rydw i'n gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i weld y pontydd mynediad rhagorol yng nghastell Caernarfon ac yng nghastell Harlech. Rydw i am weld cynnydd sylweddol yn y gwella ar y mynediad at lefelau uwch rhai o'n cestyll mewn ffordd sy'n gydnaws â'u cymeriad hanesyddol a heb darfu ar y profiad unigryw o fod o fewn henebion o'r math yma. Hefyd, rydw i wedi gofyn i Cadw ailystyried y canllawiau ar fynediad hawdd i bawb i adeiladau hanesyddol a sicrhau eu bod nhw'n cyd-fynd â'r farn a'r safon ddiweddaraf. Mae mynediad at safleoedd Cadw, wrth gwrs, yn dechrau ymhell cyn i ymwelwyr gyrraedd y fynedfa. Rydw i wedi gofyn am adolygiad o'r ffordd y mae ymwelwyr yn teithio i henebion Cadw, sy'n ystyried arwyddion, parcio, llwybrau cerdded, darpariaeth seiclo, a hefyd ar gydlynu trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r angen i gynnal partneriaethau effeithiol yn sail i lwyddiant y pedair thema rydw i wedi eu hamlinellu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o lwyddiannau sector yr amgylchedd hanesyddol wedi bod yn seiliedig ar bartneriaethau o'r fath, gan gynnwys y rhai â'r grŵp penodol sydd yn ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol, y fforwm treftadaeth adeiledig ac, wrth gwrs, awdurdodau lleol, sy'n hollbwysig inni allu gweithredu'n effeithiol ar y rheng flaen yn lleol. Yn fwy diweddar, mae fforwm addoldai Cymru—ac rydw i wedi cael y cyfle i fod yn un o'u cyfarfodydd nhw'n weddol ddiweddar—yn mynd i'r afael â chwestiwn anodd sydd gyda ni sydd yn aelodau o gymunedau ffydd o weld lleihau cynulleidfaoedd crefyddol: y ffaith bod nifer gynyddol o gapeli ac eglwysi, bellach, yn segur, a hwythau wedi bod, yn y gorffennol o leiaf, yn ffocws i'w cymunedau.
Mae'r bartneriaeth strategol newydd rhwng Cadw a'r tri sefydliad treftadaeth cenedlaethol arall yng Nghymru yn rhoi safle gwirioneddol i rannu sgiliau a phrofiad masnachol—sut i sicrhau refeniw a chyllid a'u cael i mewn i'r gwaith o dreftadaeth—ac rydw i’n edrych ymlaen at gael adroddiadau rheolaidd ar gynnydd yn y cyfeiriad yma. Ar yr un pryd, fel un a fu'n byw yn y llyfrgell genedlaethol, bron, am rai blynyddoedd, mewn cyfnod lle roeddwn i'n ceisio bod yn ysgolhaig, cyn imi ddilyn temtasiynau eraill—nid yw hynny yn y datganiad swyddogol, gyda llaw—rydw i am gydnabod cyfraniad y llyfrgell genedlaethol, yr amgueddfa genedlaethol a'r comisiwn brenhinol henebion, a'r gwaith y mae'r rhain yn ei wneud, yn eu hawl eu hunain, ansawdd eu gwaith, a'u pwysigrwydd, yn fy marn i. Fel y dadleuais i, beth amser yn ôl, mewn sefyllfa wahanol, ynglŷn â'u dyfodol nhw, mae eu gwaith unigryw nhw ac ansawdd eu gwaith nhw fel cyrff unigol yn bwysig iawn. Nid ydw i am weld y sefydliadau hyn, felly, yn colli eu hunaniaethau unigol, ond rydw i yn edrych ymlaen at ddatblygiad trefniadau llywodraethol newydd o fewn Cadw: sefydlu bwrdd mewnol newydd, a fydd yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf, a mwy o gymorth gweithredol, wedyn, yn galluogi Cadw i weithredu'n fwy effeithiol, ochr yn ochr â'i bartneriaid mewn amgylchedd masnachol.
Rydw i'n dod i ben rŵan, mae'n dda gen i ddweud. Mae sector yr amgylchedd hanesyddol yn wynebu cyfnod anodd oherwydd pwysau ariannol ac ansicrwydd y dyfodol. Mae'r sector wedi manteisio'n sylweddol, fel y gwyddom ni, ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd dros y blynyddoedd, ac mi fydd y broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—ond nid ag Ewrop, ac nid byth â diwylliant Ewrop—yn arwain at heriau sylweddol. Ond mae o hefyd yn gyfnod cyffrous. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cyflawni cymaint dros y blynyddoedd diwethaf yn brawf o'r partneriaethau llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, wedi'u sefydlu gydag ystod eang o randdeiliaid. Mae yna gyfle go iawn bellach i'n treftadaeth ragorol fod yn ganolog i'n llesiant yn y dyfodol. Dyma yw gwraidd ein hunaniaeth ddiwylliannol fel cenedl, a hyn sydd yn dweud stori Cymru wrth y byd. Diolch yn fawr.