Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb cadarnhaol iawn. A gaf fi droi yn awr, Ysgrifennydd y Cabinet, at graffu ar brosiectau? Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi cychwyn nifer o brosiectau a mentrau a luniwyd i hybu perfformiad economaidd Cymru. Yr hyn sy'n peri pryder yw'r ffaith ei bod hi'n ymddangos nad oes gan lawer o'r rhain amserlenni neu dargedau penodol ar gyfer gwerthuso'r cynnydd. Ysgrifennydd y Cabinet, does bosib nad yw'n ofyniad sylfaenol ar gyfer unrhyw brosiect y dylai gynnwys dulliau mesur o'r fath fel y gellir craffu'n iawn arnynt. Nid yw fframweithiau polisi penagored yn arwydd o lywodraethu da. Onid yw hyn yn rhoi'r argraff nad oes llawer o hyder y bydd y prosiectau a'r mentrau hyn yn cyflawni fel y rhagwelwyd?