Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:41, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf ei bod yn bwysig cytuno ar ganlyniadau ar gyfer unrhyw brosiect sy'n derbyn arian cyhoeddus. Ond yn Llywodraeth Cymru, mae gennym hefyd ddangosyddion llesiant, sy'n ddangosyddion cyson a ddefnyddir ar draws y Llywodraeth, ac o ran rhaglenni datblygu economaidd, rwy'n gobeithio fy mod wedi bod yn gwbl glir yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf wrth roi sicrwydd i'r Aelodau y byddwn hefyd yn mynd ar drywydd craffu a herio rhyngwladol gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chyrff rhyngwladol clodfawr ac adnabyddus eraill.