Gwella Trafnidiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:32, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Ddiwedd mis Mehefin, cyhoeddodd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ddogfen gynnig ddrafft yn rhoi gweledigaeth dwf ar gyfer gogledd Cymru, a nodai fod cysylltiadau trafnidiaeth gwael a’r seilwaith ffisegol yn amharu ar amser teithio, yn enwedig i ganolfannau mawr, ac yn cynnwys pum parth teithio integredig yr oeddent yn awyddus i ganolbwyntio arnynt, gan gynnwys yr A483 a chanol tref Wrecsam yn ogystal â Glannau Dyfrdwy a draw hyd at ogledd Ynys Môn. Sut ydych yn ymateb i'r datganiad yn y cynllun neu'r ddogfen gynnig hon eu bod yn ceisio cefnogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gael mwy o allu a hyblygrwydd i wneud penderfyniadau ar lefel ranbarthol pan fo’n hymagwedd ni yn 'hyrwyddo rhanbartholdeb a datganoli'? Gwn eich bod wedi gwneud sylwadau ar hyn wrth ateb fy nghwestiynau o'r blaen, ond mae amser wedi bod bellach. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’ch ymagwedd tuag at hyn?