Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 26 Medi 2018.
Yn sicr. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau atodol a dweud fy mod yn croesawu'r cynnig yn y ddogfen gynnig ar gyfer y pum parth allweddol hynny yn fawr iawn? Rwyf hefyd yn croesawu’r galw yn y ddogfen gynnig i greu corff trafnidiaeth rhanbarthol. Credaf y gallai hyn fod o fudd enfawr o ran cyflymu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith trafnidiaeth yn y rhanbarth. Edrychaf ymlaen at y misoedd nesaf ac at herio cynigion bargen dwf gogledd Cymru yn y sesiynau herio a sicrhau ein bod yn cael bargen deg nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan Lywodraeth y DU hefyd, a bod awdurdodau lleol hefyd yn gallu cyfrannu er mwyn sicrhau bod y cyfle unigryw hwn yn cael cymaint o effaith â phosibl ar gyfer pobl gogledd Cymru.