Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi llongyfarch y Llywodraeth ar Faes Awyr Caerdydd sawl tro yn y gorffennol, ond rwy'n teimlo rheidrwydd i dynnu eich sylw, ac felly, sylw cynulleidfa ehangach, gobeithio, at gyfleuster a ddarperir gan y maes awyr fel rhan o'u cyfleuster anableddau cudd, sy'n blaenoriaethu pobl ag anableddau o'r fath. Ysgogwyd fy sylwadau gan wybodaeth a gefais am bâr a gafodd brofiad ofnadwy mewn maes awyr arall yn y DU gyda'u plentyn awtistig, ond a oedd wedi defnyddio'r cyfleuster uchod ym Maes Awyr Caerdydd wedi hynny. Roeddent yn rhyfeddu at ansawdd y gwasanaeth a gawsant. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y bydd arloesi fel hyn yn helpu i ehangu enw da Maes Awyr Caerdydd lawn cymaint â'i berfformiad economaidd?