Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 26 Medi 2018.
Cytunaf yn llwyr â'r union bwynt hwnnw, ac fe'i gwnaed yn dda iawn gan yr Aelod. A gaf fi ddiolch iddo am godi pwynt hanfodol ynglŷn â mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus? Ac o ran maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn benodol, bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd uwchgynllun newydd ar gyfer yr ased penodol hwnnw yn cael ei gyflwyno er mwyn galluogi i'r maes awyr ymdopi â mwy o lawer o deithwyr ac awyrennau yn y dyfodol. Ac a gaf fi hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr Aelod ar gael ei ailbenodi i'r swydd benodol hon?