Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 26 Medi 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, y mis diwethaf, croesawais eich datganiad ar y buddsoddiad mewn cerbydau yng ngogledd Cymru i helpu i wella trafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Fodd bynnag, mae'n siomedig y bydd yn rhaid i rannau o ogledd Cymru fodloni ar drenau 30 oed a arferai fod yn drenau rheilffyrdd ardal, yn wahanol i dde Cymru, a fydd yn cael rhai newydd sbon. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n dweud bod hon yn fargen deg i ogledd Cymru?