Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch yn fawr am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf am symud yn bell iawn oddi wrth Faes Awyr Caerdydd gyda fy nghwestiwn nesaf. Tynnwyd fy sylw, Ysgrifennydd y Cabinet, at y ffaith bod defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Trefddyn ym Mhont-y-pŵl wedi eu hynysu, i bob pwrpas, ar ôl 7.30 yr hwyr. Ymddengys mai hwn yw'r bws olaf sy'n cludo pobl o ganol y dref i'r ystâd hon. Wrth gwrs, ceir effaith ar y busnesau yn y dref, yn enwedig y tafarndai, o ystyried bod yn rhaid i'w cwsmeriaid naill ai adael mewn pryd i ddal y bws olaf neu dalu am dacsi. Ni all llawer ohonynt fforddio hynny ac felly maent yn gadael yn gynnar. Mae'r landlordiaid, felly, yn colli cwsmeriaid gwerthfawr ac mae canol y dref yn ddiffaith ar ôl yr amser hwn. Gall hyn, wrth gwrs, fod yn wir am lawer o drefi'r Cymoedd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod hon yn sefyllfa dderbyniol?