1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 26 Medi 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dagfeydd traffig ar yr M4 yn rhanbarth Gorllewin De Cymru? OAQ52617
Gwnaf. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod yn cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael â thagfeydd ac i wella dibynadwyedd amserau teithio, drwy ein rhaglen mannau cyfyng, a thrwy welliannau i drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael, eu hunain, â phroblemau lleol allweddol.
Wel, fel y gŵyr unrhyw un sy'n gwrando ar Radio Wales yn y bore, bydd tagfeydd rhwng unrhyw le o gwmpas cyffordd 47 a chyffordd 41. Mae hyn i'w ddisgwyl bob bore at ei gilydd. Mae systemau llywio â lloeren, wrth gwrs, yn rhan o'r broblem, gan eu bod, yn gyffredinol, yn darparu llwybr 'ar hyd yr M4' os ydych yn mynd i unrhyw le, bron â bod, i'r dwyrain neu i'r gorllewin. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gynnal dadansoddiad o'r llefydd mae'r traffig yn symud rhyngddynt, a hefyd i edrych ar sut y gallai system fetro leihau'r tagfeydd? Oherwydd mae'n gwaethygu, ac mae unrhyw un sy'n dod o'r gorllewin yn ddyddiol yn cael eu dal yn y tagfeydd hyn.
Rwy'n cydnabod bod cryn ddiddordeb gan yr Aelod yn y cyffyrdd rhwng cyffordd 40 a 48 ar yr M4. Mae gan ei gyd-Aelod sy'n eistedd drws nesaf iddo yr un diddordeb. [Chwerthin.] Credaf ei bod yn deg dweud bod casglu tystiolaeth o'r angen i fuddsoddi mewn gwelliannau trafnidiaeth yn hanfodol, a bydd modelu patrymau traffig presennol ac yn y dyfodol yn gymorth, yn ei dro, i lywio sut y gallwn sicrhau'r manteision mwyaf o wariant y Llywodraeth. Nawr, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod fy swyddogion, a Trafnidiaeth Cymru, yn ystyried cyfarfod yn gynnar ym mis Hydref i drafod sut i adeiladu'r model trafnidiaeth ar gyfer de-orllewin Cymru, a bydd y model hwnnw'n cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad y metro, yn ogystal â'r astudiaeth goridor a argymhellir ar gyfer yr M4 i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr. Rwy'n falch o allu dweud bod y comisiwn ar gyfer astudiaeth gychwynnol WelTAG i archwilio'r tagfeydd rhwng cyffordd 35 a chyffordd 49 wedi'i ddyfarnu yn ddiweddar, a disgwylir adroddiad tuag at ddiwedd eleni neu'n gynnar yn 2019 fan bellaf.
Wel, rwy'n teimlo poen Mike Hedges yn hyn o beth, mae arnaf ofn, ac mae gennyf ddiddordeb, o ran yr astudiaeth goridor, mewn gweld a yw'n cynnwys y pwynt rwyf am ei godi â chi nawr. Yn ystod y cyfnod o wyth mis y cyfeiriodd David Rees ato ddoe, pan oedd cyffordd 41 ar gau, cododd y defnydd o ffordd ddosbarthu Ffordd yr Harbwr, a agorwyd gan y Prif Weinidog bum mlynedd yn ôl, o 14.5 car y funud i'r ffigur syfrdanol o 14.9 car y funud yn ystod adegau prysur y bore. Dywedai adroddiad y Llywodraeth ar gau'r gyffordd—wel, fe'n hatgoffodd, mewn gwirionedd—mai diben Ffordd yr Harbwr yw lleihau traffig lleol ar yr M4 rhwng cyffyrdd 38 a 41 a darparu ffordd ddeuol o safon uchel, ac mae hynny'n wir, yn gyfochrog â Phort Talbot. Credaf ein bod yn cytuno nad yw'r ffigurau hynny, a gasglwyd mewn cyfnod o ddiflastod lleol, yn adlewyrchu gwerth am arian mewn gwirionedd: costiodd y ffordd honno £107 miliwn. Ac nid oedd yn rheoli llygredd yn effeithiol chwaith. A gallaf ddweud wrthych nad oes unrhyw arwyddion ystyrlon ar y draffordd ei hun yn cymell pobl tuag at y ffordd ddosbarthu honno. Ac yn ystod y cyfnod hwn lle ceir terfyn 50 mya estynedig o Earlswood, nid oes unrhyw beth yno sy'n dweud, 'Defnyddiwch Ffordd yr Harbwr yn lle hon'. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru, a'r awdurdod lleol, a bod yn deg, ei wneud i annog pobl i ddefnyddio'r ffordd ddosbarthu honno?
Bydd Ffordd yr Harbwr yn cael ei chynnwys fel rhan o'r gwaith modelu ar gyfer metro integredig ar draws y rhanbarth. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ynglŷn â hynny. Ond o ystyried y diddordeb a fynegwyd yn y Siambr heddiw, a gwn fod diddordeb wedi'i leisio'n fwy cyffredinol yn ddiweddar, a gaf fi gynnig cyfarfod ag Aelodau o'r gwahanol bleidiau gwleidyddol i drafod yr M4 i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr?
Ysgrifennydd y Cabinet, amcangyfrifir bod tagfeydd ar gyffordd 43 yn costio oddeutu £6.5 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, a thagfeydd ar gyffordd 41 yn costio £5.1 miliwn yn ychwanegol. Mae biliynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar fynd i'r afael â thagfeydd o gwmpas Casnewydd a chyflwyno'r metro i gynnig dewisiadau gwahanol hwylus a dibynadwy yn lle'r car. Ysgrifennydd y Cabinet, a all fy rhanbarth ddisgwyl triniaeth debyg i'r de-ddwyrain, ac a allwch amlinellu cynlluniau eich Llywodraeth i liniaru tagfeydd yng Nghymru?
Gallaf, yn bendant. Gyda'r cynllun gweithredu economaidd, rydym yn rhoi ffocws newydd a chliriach ar ddatblygu economaidd rhanbarthol i sicrhau gwell ansawdd o wariant ledled Cymru, ac rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod heddiw y byddaf yn cyhoeddi cyllidebau rhanbarthol dangosol ochr yn ochr â'r llinellau gwariant yn fy adran, fel y gallant, yn y dyfodol, fod yn fwy tryloyw mewn perthynas â faint sy'n cael ei wario ym mhob rhan o Gymru. Credaf fod hynny'n rhywbeth yr oeddwn i, fel aelod o'r meinciau cefn, yn awyddus i'w weld ar waith, ac rwy'n falch o wneud hynny fel rhan o'r Llywodraeth.
Credaf ei bod yn gwbl hanfodol, yn gyntaf oll, ein bod yn casglu'r sylfaen dystiolaeth a all lywio datblygiad y metro yn rhanbarth bae Abertawe, ac yna mae angen inni sicrhau bod y gwaith a wneir gan awdurdodau lleol yn gyson â'r gwaith rydym wedi comisiynu'r Athro Mark Barry i'w gwblhau, gwaith a luniwyd i gyflymu rhaglenni sy'n darparu atebion cyflym, os mynnwch, fel y gallant ddenu cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth y DU.
Yn y tymor hwy, mae gennyf hyder y bydd partneriaid y dinas-ranbarth, wrth gydweithio â Llywodraeth Cymru, yn dod o hyd i'r atebion cywir i'r problemau a godwyd gan Aelodau heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet, y rhan o'r draffordd rydym yn ei thrafod yw 41 i 48, ond rwyf am ganolbwyntio ar 41 i 42 ar hyn o bryd, lle mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y terfyn 50 mya mewn ymgais i leihau llygredd a nitrogen deuocsid. Wel, adroddiad a luniwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod 3 yr asesiad yw'r adroddiad sydd gennyf yn fy llaw mewn gwirionedd. Ac mae'n cynnwys argymhelliad i ystyried, fel opsiwn, cau cyffordd 41 tua'r gorllewin. Rydym wedi profi hynny o'r blaen. Mae gennym y problemau yn y dref; gallwn roi'r hanes i chi; gallwn ddangos na leihawyd llygredd yn y dref. Mewn gwirionedd, gwaethygodd pethau, oherwydd wrth i blant ifanc gerdded i'r ysgol, roedd ganddynt resi o geir a cherbydau ochr yn ochr â hwy yn allyrru'r holl lygredd hwn, ac roeddent yn ei anadlu i mewn ar lefel y ddaear. A wnewch chi edrych ar hyn a dweud wrth yr awduron na ddylent fod wedi rhoi hynny ar waith? Nid ydynt wedi gwneud eu gwaith; nid ydynt wedi ymgynghori â'r bobl a oedd yn gysylltiedig â mater cyffordd 41. Yn amlwg, nid oes ganddynt ddarlun na syniad o'r problemau traffig a greodd yn y dref, ac mae'r ffaith eu bod yn awyddus i leihau llygredd yn golygu y dylent fod yn edrych ar ffyrdd amgen, ac fel y dywedaf, gallai'r metro fod yn opsiwn, sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio'r system drafnidiaeth gyhoeddus. A wnewch chi hefyd ailddatgan eich penderfyniad i gadw'r gyffordd honno ar agor?
Wel, a gaf fi sicrhau'r Aelod fod yr ymgynghoriad a lansiwyd gennym yr wythnos diwethaf mewn perthynas ag arfarniadau cam 3 diweddaraf WelTAG mewn ymateb i'r achos a ddygwyd yn erbyn Gweinidogion Cymru, ac er fy mod yn gyfarwydd iawn â'r ddadl o blaid o cadw cyffordd 41 ar agor—yn wir, rwyf wedi ymgysylltu ag arweinwyr ymgyrchoedd ynglŷn â hyn dros y blynyddoedd diwethaf—mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno opsiynau ar y cam hwn ar gyfer lleihau allyriadau ar hyd y darn penodol hwnnw o ffordd. Mae'n un o bum llwybr yng Nghymru a gofrestrwyd ar hyn o bryd fel rhai nad ydynt yn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y gyfarwyddeb Ewropeaidd ar ansawdd aer yr amgylchedd. Rwy'n awyddus i sicrhau y gallwn gydymffurfio â'r rhwymedigaethau hynny, ond dylem wneud hynny gan sicrhau'r effaith leiaf sy'n bosibl ar gymudwyr ac ar breswylwyr.
Ond a gaf fi ddweud hefyd, Lywydd, mai'r hyn sydd bwysicaf i mi yw iechyd a lles y bobl sy'n byw ger y ffyrdd hynny, nid yn unig y bobl sy'n defnyddio'r ffyrdd? Mae'n ffaith ddiamheuol bellach nad problemau iechyd yn unig a achosir gan lefelau uchel o allyriadau; maent yn achosi marwolaethau, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.