Ffordd Liniaru'r M4

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:13, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Felly, gan obeithio nad wyf yn bod yn ddifrïol, y Prif Weinidog cyfredol sydd ar ei ffordd allan fydd yn gwneud y penderfyniadau, ond eto, pa benderfyniad bynnag y bydd yn ei wneud, bydd trafodaeth drylwyr yn digwydd wedyn ynglŷn â'i benderfyniad. Onid yw'n wir, Ysgrifennydd y Cabinet—? Fe ollyngoch chi'r gath o'r cwd yn gynharach mewn ymateb i Caroline Jones, pan ofynnodd am sicrwydd y byddai de-orllewin Cymru yn cael yr un faint o fuddsoddiad, mewn perthynas â'r M4, â de-ddwyrain Cymru. Ac mewn gwirionedd, ni fydd y naill le na'r llall yn cael llawer iawn o fuddsoddiad o gwbl o dan eich plaid, a dim ond gwaethygu a wnaiff y tagfeydd.