1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 26 Medi 2018.
6. A fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru am ffordd liniaru'r M4 yn cael ei wneud o dan y Prif Weinidog presennol neu ei olynydd? OAQ52621
Rwy'n falch o allu dweud wrth y Siambr heddiw fod swyddogion bellach wedi derbyn adroddiad arolygydd yr ymchwiliad cyhoeddus. Yn dilyn diwydrwydd dyladwy, bydd Gweinidogion Cymru, ac yn y pen draw, y Prif Weinidog cyfredol yn gwneud penderfyniad ar broses y gorchmynion statudol—i bob pwrpas, a roddir caniatâd cynllunio ai peidio. Bydd trafodaeth drylwyr ac agored yn digwydd wedyn cyn gwneud penderfyniad terfynol ar fuddsoddiad.
Felly, gan obeithio nad wyf yn bod yn ddifrïol, y Prif Weinidog cyfredol sydd ar ei ffordd allan fydd yn gwneud y penderfyniadau, ond eto, pa benderfyniad bynnag y bydd yn ei wneud, bydd trafodaeth drylwyr yn digwydd wedyn ynglŷn â'i benderfyniad. Onid yw'n wir, Ysgrifennydd y Cabinet—? Fe ollyngoch chi'r gath o'r cwd yn gynharach mewn ymateb i Caroline Jones, pan ofynnodd am sicrwydd y byddai de-orllewin Cymru yn cael yr un faint o fuddsoddiad, mewn perthynas â'r M4, â de-ddwyrain Cymru. Ac mewn gwirionedd, ni fydd y naill le na'r llall yn cael llawer iawn o fuddsoddiad o gwbl o dan eich plaid, a dim ond gwaethygu a wnaiff y tagfeydd.
Ni chredaf fod hwnnw'n sylw teg, o gofio rhai o'r prosiectau a ariennir gennym ar hyn o bryd yn ne-orllewin Cymru, ac o ystyried y datblygiadau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn enwedig ar raglen fetro bae Abertawe. Y Prif Weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad, ond bydd trafodaeth yn digwydd, a bydd y drafodaeth honno, rwy'n siŵr, yn amlygu nifer o wahanol ddiddordebau a nifer o syniadau gwahanol ynglŷn â sut y gallwn ddatrys y tagfeydd ar yr M4 o gwmpas Casnewydd. Mae hwn yn fater cynhennus iawn—rwy'n parchu hynny—ond mae'n rhaid gwneud y penderfyniad ar sail tystiolaeth, a phan edrychwn ar y dystiolaeth sydd ar gael i ni, nodir bod cymhareb cost a budd y cynnig yn uchel, yn enwedig o gymharu'r prosiect â rhai o'r prosiectau seilwaith mawr eraill sydd ar y gweill neu sydd wedi digwydd ledled y DU. Mae'n edrych yn ffafriol pan fyddwch yn ei gymharu, er enghraifft, â ffordd osgoi Côr y Cewri ar yr A303, a gafodd gymhareb gost a budd o 1.3 yn unig, neu'r A470, ar 1.05.
Fodd bynnag, i gydnabod y safbwyntiau gwahanol o amgylch y Siambr a'r angen i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn dulliau amgen o deithio, mae'n deg dweud bod angen inni edrych ar gynlluniau rhannu ceir yn ogystal â chynlluniau cynllun teithio personol a theithio llesol lle bynnag a pha bryd bynnag y gallwn, oherwydd mae'n ffaith ddiddorol, gyda chynlluniau rhannu ceir, y ceir cymhareb gost a budd o rhwng 1.95 a 6, a rhwng 4.5 a 31.8 ar gyfer cynlluniau teithio personol. Mae teithio llesol yn darparu cymhareb gost a budd uchel iawn hefyd, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi penderfynu yn y Llywodraeth i gynyddu ein gwariant ar deithio llesol yn sylweddol, er mwyn cyflymu'r gwaith o ddatblygu a darparu llwybrau teithio llesol sy'n cynnig dewis amgen i bobl ar gyfer teithio o le i le.
Ni waeth pwy sy'n gwneud y penderfyniad ynglŷn â'r M4, heb os, mae dinas Casnewydd yn cael ei llesteirio gan dagfeydd traffig sylweddol. Ar yr M4 fel y mae ar hyn o bryd a phan fo damwain ar y llwybr hwnnw, mae gweddill Casnewydd yn dod i stop, ac ni fydd hyn ond yn gwaethygu pan fydd tollau pont Hafren yn cael eu diddymu cyn bo hir. Mae pawb yn cytuno bod angen gwneud rhywbeth. Er bod trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd a dibynadwy yn sicr yn hollbwysig, nid dyma'r ateb cyflawn. Mae cryn dipyn o waith i'w wneud ar y cynlluniau metro o gwmpas Casnewydd cyn y byddant yn newid o fod yn llinellau lliw ar y map i fod yn llwybrau a gwasanaethau go iawn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod angen mynd i'r afael â'r broblem hon ar frys a'i bod yn ddyletswydd arnom i sicrhau nad yw hyn yn trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf?
Credaf yn gryf fod angen lleddfu'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd cyn gynted â phosibl. Mae angen inni edrych hefyd ar ffyrdd gwahanol o alluogi pobl i basio drwy Gasnewydd, neu i deithio o fewn ardal Casnewydd. Unwaith eto, mae angen cyflawni'r gwaith hwnnw ar frys. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ymchwilio iddo fel rhan o'r gwaith o ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol ledled Cymru ac rwy'n awyddus i sicrhau, yn y dyfodol, fod Trafnidiaeth Cymru yn chwarae mwy o ran wrth gynllunio atebion trafnidiaeth gyhoeddus ledled y wlad. Buaswn yn fwy na pharod i hwyluso trafodaeth rhwng yr Aelod a Trafnidiaeth Cymru, er mwyn ystyried ei syniadau niferus ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod tagfeydd yn lleihau, nid yn unig ar yr M4, ond ar y ffyrdd lleol yn ardal Casnewydd hefyd.
Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau, wrth gwrs, i'm cyd-Aelod Plaid Cymru fan hyn, Adam Price, mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig y bydd adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus a'r penderfyniad ar y gorchmynion statudol yn destun trafodaeth a phleidlais yn y Siambr yma cyn gwneud penderfyniad. A allwch chi, felly, gadarnhau i ni i gyd a fydd y bleidlais honno'n bleidlais rwymol?
Rydym yn archwilio'r opsiynau ar hyn o bryd. Roeddem wedi penderfynu y byddai dadl 'i nodi' yn briodol, ond mae trafodaethau pellach yn mynd rhagddynt ynglŷn ag a ddylai'r ddadl, yn wir, arwain at bleidlais rwymol.