Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 26 Medi 2018.
Ni chredaf fod hwnnw'n sylw teg, o gofio rhai o'r prosiectau a ariennir gennym ar hyn o bryd yn ne-orllewin Cymru, ac o ystyried y datblygiadau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn enwedig ar raglen fetro bae Abertawe. Y Prif Weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad, ond bydd trafodaeth yn digwydd, a bydd y drafodaeth honno, rwy'n siŵr, yn amlygu nifer o wahanol ddiddordebau a nifer o syniadau gwahanol ynglŷn â sut y gallwn ddatrys y tagfeydd ar yr M4 o gwmpas Casnewydd. Mae hwn yn fater cynhennus iawn—rwy'n parchu hynny—ond mae'n rhaid gwneud y penderfyniad ar sail tystiolaeth, a phan edrychwn ar y dystiolaeth sydd ar gael i ni, nodir bod cymhareb cost a budd y cynnig yn uchel, yn enwedig o gymharu'r prosiect â rhai o'r prosiectau seilwaith mawr eraill sydd ar y gweill neu sydd wedi digwydd ledled y DU. Mae'n edrych yn ffafriol pan fyddwch yn ei gymharu, er enghraifft, â ffordd osgoi Côr y Cewri ar yr A303, a gafodd gymhareb gost a budd o 1.3 yn unig, neu'r A470, ar 1.05.
Fodd bynnag, i gydnabod y safbwyntiau gwahanol o amgylch y Siambr a'r angen i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn dulliau amgen o deithio, mae'n deg dweud bod angen inni edrych ar gynlluniau rhannu ceir yn ogystal â chynlluniau cynllun teithio personol a theithio llesol lle bynnag a pha bryd bynnag y gallwn, oherwydd mae'n ffaith ddiddorol, gyda chynlluniau rhannu ceir, y ceir cymhareb gost a budd o rhwng 1.95 a 6, a rhwng 4.5 a 31.8 ar gyfer cynlluniau teithio personol. Mae teithio llesol yn darparu cymhareb gost a budd uchel iawn hefyd, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi penderfynu yn y Llywodraeth i gynyddu ein gwariant ar deithio llesol yn sylweddol, er mwyn cyflymu'r gwaith o ddatblygu a darparu llwybrau teithio llesol sy'n cynnig dewis amgen i bobl ar gyfer teithio o le i le.