Ffordd Liniaru'r M4

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:18, 26 Medi 2018

Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau, wrth gwrs, i'm cyd-Aelod Plaid Cymru fan hyn, Adam Price, mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig y bydd adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus a'r penderfyniad ar y gorchmynion statudol yn destun trafodaeth a phleidlais yn y Siambr yma cyn gwneud penderfyniad. A allwch chi, felly, gadarnhau i ni i gyd a fydd y bleidlais honno'n bleidlais rwymol?