Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 26 Medi 2018.
Credaf yn gryf fod angen lleddfu'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd cyn gynted â phosibl. Mae angen inni edrych hefyd ar ffyrdd gwahanol o alluogi pobl i basio drwy Gasnewydd, neu i deithio o fewn ardal Casnewydd. Unwaith eto, mae angen cyflawni'r gwaith hwnnw ar frys. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ymchwilio iddo fel rhan o'r gwaith o ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol ledled Cymru ac rwy'n awyddus i sicrhau, yn y dyfodol, fod Trafnidiaeth Cymru yn chwarae mwy o ran wrth gynllunio atebion trafnidiaeth gyhoeddus ledled y wlad. Buaswn yn fwy na pharod i hwyluso trafodaeth rhwng yr Aelod a Trafnidiaeth Cymru, er mwyn ystyried ei syniadau niferus ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod tagfeydd yn lleihau, nid yn unig ar yr M4, ond ar y ffyrdd lleol yn ardal Casnewydd hefyd.