Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 26 Medi 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Cytunaf yn llwyr â'i sylwadau ynglŷn â safbwynt Llywodraeth y DU mewn perthynas â thoriadau i gymorth cyfreithiol, ac yn wir, cau llysoedd a chamau eraill tuag yn ôl. Cytunaf yn llwyr ag ef fod effaith hynny, o ran mynediad pobl at gyfiawnder, yng Nghymru a ledled y DU, wedi bod yn hynod niweidiol, ac yn wir, yn waradwyddus. Roedd peth o'r drafodaeth a gafwyd yn y gweithdy yn ddiweddar yn canolbwyntio, rwy'n credu, ar y pwynt sydd wrth wraidd ei gwestiwn, sef bodolaeth system gyfiawnder gweinyddol, os mynnwch, sy'n edrych ar sut y gallwn wneud pethau'n wahanol yng Nghymru, fel y gallwch leddfu rhai o effeithiau llymach y toriadau i gymorth cyfreithiol drwy sicrhau bod mynediad at gyfiawnder gweinyddol, o leiaf, yn haws i unigolion. Credaf ei bod yn anodd meddwl am honno ar hyn o bryd fel system sy'n gwbl gydlynol. Mae wedi'i datblygu dros nifer o flynyddoedd ac mewn ffyrdd gwahanol, a chredaf fod rhan o gymhlethdod y system honno yn her i unigolion sy'n chwilio am gyfiawnder.
Yn amlwg, fe fydd yn ymwybodol fod y rhan honno o'r system gyfiawnder gweinyddol, y system dribiwnlysoedd, yn destun gwaith sydd ar gychwyn gan Gomisiwn y Gyfraith i edrych ar sut y gellir ad-drefnu a symleiddio'r system a'i gwneud yn llawer mwy cydlynol. Unwaith eto, rhoddwyd llawer o'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru ar waith, cafodd ei phasio, cyn dyddiau datganoli. Felly, ein gorchwyl yw edrych mewn modd systematig a chydlynol ar y rhan honno o'n system gyfiawnder ddatganoledig—os gallaf ddefnyddio'r term hwnnw—a gwneud pethau'n haws efallai i unigolion sy'n ceisio iawn. Un o'r agweddau eraill y credaf y dylid eu hystyried yn dilyn y trafodaethau hynny yn gynharach yn yr wythnos yw'r gwaith sydd ar gychwyn gan brifysgolion Bangor a Chaerdydd ar y cyd i fapio rhai o'r llwybrau ar gyfer ceisio iawn yn rhai o'r meysydd lle mae angen i bobl wneud hynny—ym maes addysg a'r maes tai—fel ein bod yn ei gwneud yn haws i'r cyhoedd ddeall sut y gellir mynd ati i fynnu eu hawliau.