Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 26 Medi 2018.
Roeddwn yn falch iawn o weld y Cwnsler Cyffredinol yn y gweithdy cyfiawnder gweinyddol yr wythnos diwethaf, nid yn unig i gyflwyno'i araith ei hun ond yn aros wedyn. Cafodd y gweithdy ei drefnu'n dda iawn gan Sarah Nason o Brifysgol Bangor.
Wrth i'r gwahaniaeth gynyddu rhwng ein cyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr, daw'n fwyfwy pwysig i'r Aelodau ymgysylltu â hynny. Roeddwn yn awyddus i sefydlu, a chyda phobl eraill, fe sefydlais y grŵp trawsbleidiol ar y gyfraith i geisio gwella'r cysylltiadau hynny. Yn araith y Cwnsler Cyffredinol, credaf iddo nodi chwe egwyddor sylfaenol cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, a thybed a yw'n ystyried bod yr egwyddorion hynny yn ddisgrifiad o'r system fel y mae ar hyn o bryd, neu a ydynt yn cynrychioli ei ddyhead ar gyfer sut y byddai'n hoffi i'r system ddatblygu yn y dyfodol.