2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 26 Medi 2018.
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am wneud cyfreithiau Cymru yn fwy hygyrch? OAQ52634
Mae sicrhau bod y gyfraith yn fwy hygyrch yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym yn cwblhau Bil deddfwriaeth ar hyn o bryd, a’r bwriad yw y bydd yn ffurfioli ymrwymiad hirdymor y Llywodraeth i symleiddio cyfraith Cymru a'i gwneud yn fwy hygyrch. Rwy'n bwriadu cyflwyno'r Bil cyn diwedd y flwyddyn.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Gwn eich bod wedi siarad am y materion hyn yn ddiweddar yn nigwyddiad Sefydliad Bevan yn yr Eisteddfod, ac fe siaradoch chi ynglŷn â sut y mae mynediad at gyfiawnder, a hygyrchedd ein deddfau, yn ofynion sylfaenol mewn perthynas â rheolaeth y gyfraith. Dyna sut y mae pobl yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, yn arfer eu hawliau, yn herio gwahaniaethu ac yn dwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif. Ond a fyddech yn cytuno, yn anffodus, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Mick Antoniw yn gynharach, o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU, ein bod wedi mynd tuag yn ôl mewn perthynas â’r egwyddorion pwysig hynny? A allech chi gadarnhau felly fod hyrwyddo a diogelu mynediad at gyfiawnder yn thema gyson ar gyfer y deddfau sy'n cael eu creu gan Senedd Cymru?
Yn sicr. Yn y lle hwn, neu yn Senedd y DU, lle mae hawliau’n cael eu creu ar gyfer unigolion, a lle gosodir cyfrifoldeb ar eraill, credaf yn gryf iawn fod yn rhaid i ni sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu diogelu, a bod gan bobl allu realistig i geisio iawn drwy lysoedd a thrwy dribiwnlysoedd pan dramgwyddir yn erbyn eu hawliau.
I ni yma yng Nghymru, mae gennym bwerau ffurfiol cyfyngedig mewn perthynas â’r system gyfiawnder. Felly, ystyriaf fod uchelgais y Llywodraeth hon i sicrhau bod y cyfreithiau rydym yn eu pasio yma yn haws eu deall, yn fwy hygyrch i bobl yng Nghymru, nid yn unig yn rhan sylfaenol o'r setliad democrataidd a rhwymedigaethau democrataidd y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn rhan sylfaenol o unrhyw gysyniad o gyfiawnder cymdeithasol, fel bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau ac yn gwybod sut y gallant geisio iawn pan dramgwyddir yn erbyn yr hawliau hynny. Edrychaf ymlaen at gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno maes o law.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.