Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau dilynol hynny. I roi'r sicrwydd y mae'n gofyn amdano, rydym yn parhau i gymryd pa gamau bynnag a allwn ar draws Llywodraeth Cymru er mwyn paratoi ar gyfer trychineb na fyddem wedi bod ag unrhyw ran yn ei greu, ac rydym yn gwneud hynny yn y ffordd a ddywedodd—rydym yn gwneud ein gorau glas yn yr amgylchiadau anffafriol iawn hynny. Os oes unrhyw sefydliadau yng Nghymru sydd â syniadau penodol ynglŷn â sut y gallem baratoi yn well ar gyfer y posibilrwydd hwnnw, rydym yn awyddus iawn i drafod hynny gyda hwy, a gwnawn hynny ar draws yr ystod lawn o gyfrifoldebau Cabinet.
Yn ei ail set o gwestiynau, mae Steffan Lewis yn cyfeirio at un o'r gwendidau allweddol ym Mhapur Gwyn Chequers, ac yn dweud nad yw'n darparu ateb i'r broblem fwyaf anhydrin yn y negodiadau, sef ffin galed ar ynys Iwerddon. Pan ddywedais ei bod yn ddyletswydd ar y rheini sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau i fynd i'r afael â hynny heb fod ar sail llinellau coch a safbwyntiau diysgog, gwneuthum hynny'n llwyr er mwyn canolbwyntio ar y nifer fechan o faterion sy'n hanfodol er mwyn bwrw ymlaen â Chequers, ac mae ffin Iwerddon ar frig y rhestr honno. Yn yr holl fforymau a fynychaf ar ran Llywodraeth Cymru, gresynaf yn fawr nad oes gennym gynrychiolwyr o weinyddiaeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon yno i helpu yn y trafodaethau hynny; rydym yn gweld eu colli bob tro. Yn eu habsenoldeb, gwnawn bopeth a allwn i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar bob cyfle i arfer y dylanwad y cyfeiriodd Steffan Lewis ato, gan ddibynnu ar rym ein dadl, ar y dystiolaeth a ddarparwn, ac ar ein gallu i ffurfio cynghreiriau gydag eraill o amgylch y bwrdd.