Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 26 Medi 2018.
Un peth sy'n fy nharo, ac eraill sy'n darllen yr adroddiad hwn rwy'n siŵr, yw hyd y cyfnod o amser y caiff y targedau eu gosod ar ei gyfer. Rydych yn sôn am 20, 30, 40 mlynedd i wneud y newidiadau mawr eu heffath rydym yn sôn amdanynt yma ac mewn gwirionedd, onid yw gweithgarwch monitro cyson ar gynnydd—neu fel arall, yn ôl fel y bydd hi—yn rôl hanfodol i unrhyw bwyllgor yn y Cynulliad, a chredaf fod honno'n fenter i'w chroesawu er bod perygl y gallai oddiweddyd gweddill gwaith y pwyllgor os yw'n gyson yn adrodd yn flynyddol ar bob math o bethau.
Roedd sylwadau agoriadol y Cadeirydd yn nodi, yn amlwg, yr un anghysondeb amlwg sy'n neidio allan yn syth o'r ffigur cyntaf, sef gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon i lefelau 1999 erbyn y flwyddyn 2040, ac yn amlwg, rydym wedi mynd tuag yn ôl—erbyn 2020, mae'n ddrwg gennyf, i'r ffigur hwnnw ddod i mewn—ac rydym wedi mynd tuag yn ôl yma yng Nghymru yn methu dal i fyny â gweddill y DU yn y ffordd y maent wedi symud ymlaen at yr un targed. Felly, rwy'n gobeithio, yn y sylwadau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi yn y ddadl hon, y bydd yn dangos sut y bydd hi'n rhoi'r lori yn ôl ar y ffordd, y car yn ôl ar y ffordd, fel petai, i gyrraedd y targedau hynny—mewn ffordd gynaliadwy, dylwn ychwanegu.
Oherwydd, yn amlwg, mae rhan allweddol o'r adroddiad hwn yn edrych ar sut yr ydym yn chwyldroi ein system drafnidiaeth a sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio ar draws pob adran fel eu bod yn gosod pwyntiau gwefru trydan, ac yn arbennig yn modelu'r system o amgylch cynlluniau ffyrdd sy'n aml iawn yn cael eu defnyddio fel enghreifftiau o gynyddu ein hôl troed carbon. Ond os ydych chi'n adeiladu rhai o'r gwelliannau ffyrdd hyn yn y pen draw, honiad y Llywodraeth mewn gwirionedd yw y gallent sicrhau gostyngiad sylweddol o ran rhai o'r allbynnau carbon drwy sicrhau bod traffig yn symud yn fwy effeithlon ac y gellid lleddfu'r stopio ac ailgychwyn a welwn mewn llawer o lefydd ar ein rhwydwaith ffyrdd ar hyn o bryd gan gyfrannu at lygredd aer mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. Rwy'n mawr obeithio hynny—rwyf wedi darllen ymateb y Gweinidog i'r pwyllgor—ond rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymroi'n llawnach heddiw i ateb rhai o'r sylwadau hynny ynghylch ffordd liniaru'r M4, er enghraifft, oherwydd clywsom Ysgrifennydd y Cabinet yn y cwestiynau i'r Gweinidog yn dweud bod yr ymchwiliad cyhoeddus gydag ef yn awr, ei fod wedi'i gyflwyno iddo, a honiad y Llywodraeth, mewn gwirionedd, yw y byddwch drwy adeiladu'r ffordd honno yn helpu i gyfrannu at leihau allyriadau carbon yng Nghymru. Rwy'n credu bod y pwyllgor yn awyddus i weld mwy o dystiolaeth o hynny a chredaf fod hynny'n dal i'w brofi ym meddyliau rhai pobl.
Hefyd, mae'n bwynt dilys iawn i Gadeirydd y pwyllgor dynnu sylw ato. Gallaf gofio yn y trydydd Cynulliad, pan oeddwn ar y pwyllgor blaenorol, un Gweinidog Cabinet ar y pryd yn dod ger ein bron heb sylweddoli bod rhwymedigaeth amgylcheddol ar ei adran fel rhan o fenter gyffredinol y Llywodraeth—ni wnaf enwi a chodi cywilydd—ac yn sydyn iawn gafaelodd ei swyddog yn ei fraich a dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, mae rhwymedigaeth arnoch fel Gweinidog i adrodd yn flynyddol i'r Prif Weinidog ynghylch y cynnydd y mae eich adran yn ei wneud.' Ac mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn gweithio ar y cyd i gyflawni'r agenda hon.
A bod yn deg, clywsom heddiw wrth graffu ar adran comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol fod ganddi hyder y ceir mwy o gydweithio ar draws y Llywodraeth, ond mae'n dibynnu ar yr unigolion ac ar ymrwymiad yr unigolion oherwydd eu bod yn atebol am eu hadrannau. Felly, unwaith eto, yn ei hymateb heddiw, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi hyder inni fod y trefniadau cydweithio y mae hi wedi'u rhoi ar waith, a bod yn deg â hi, yn wydn, yn gadarn ac na fyddant yn newid o un unigolyn i'r llall pe bai ad-drefnu'r Cabinet yn digwydd, ac y byddant yn parhau yn y Cabinet a'r strwythurau Llywodraeth sydd gennym yma yng Nghymru.
Yn amlwg, o fy nghefndir ffermio wrth gwrs, mae tir yn rhan bwysig iawn o'r pethau y mae gennyf ddiddordeb ynddynt, ac mae'n peri gofid imi weld y diffyg coedwigaeth a gwaith datblygu coedwigaeth a fu. Er clod iddi, roedd gan y Llywodraeth darged uchelgeisiol iawn o 100,000 hectar i'w plannu, ac nid yw hyd yn oed wedi crafu'r wyneb o ran cyrraedd y targed hwnnw ar hyn o bryd. Credaf fod 96,000 o hectarau i gael eu cyflawni o hyd os yw'r targed hwnnw i'w gyflawni yn y ffrâm amser a osododd y Llywodraeth iddi ei hun yn wreiddiol. Ac er ei bod yn dal ei gafael yn dynn ar y targed hwnnw, rwy'n meddwl efallai y dylid gosod nod mwy realistig ar waith bellach oherwydd nid yw'n ymwneud â chyfaddef methiant; mae'n ymwneud â bod yn realistig ynghylch yr hyn y gall y Llywodraeth ei gyflawni, yn hytrach na dal ei gafael ar darged a gafodd ei nodi, ac nad oes modd ei gyflawni, mae'n amlwg, oherwydd yn y cyfnod o amser a fu ers sefydlu'r targed hwn dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf, dim ond 2,500 hectar a blannwyd yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Gyda'r ewyllys gorau yn y byd dros yr oddeutu 14 mlynedd nesaf, nid ydych yn mynd i blannu 7,000 hectar o goetir bob blwyddyn i gyflawni'r 100,000 a osodwyd gennych. Felly, gadewch inni fod yn realistig: gadewch i ni roi targed realistig i'r diwydiant coedwigaeth, i'r diwydiant tir.
Hefyd, hoffwn grybwyll cynllunio, ond rwy'n sylweddoli fy mod yn brin o amser, fel y mae'r Dirprwy Lywydd yn dynodi, ond mae hon yn eitem agenda sy'n mynnu llawer o sylw gan y rhai sy'n ein hethol i'r sefydliad hwn. Edrychaf ymlaen at fy ngwaith ar y pwyllgor ac yn benodol, at ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond yn bwysicach, at weld cynnydd yn y maes polisi pwysig hwn a gallu edrych arno yn y pen draw a dweud, 'Fe wnaethom wahaniaeth.' Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.