6. Dadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:15, 26 Medi 2018

Rwy'n hapus iawn i gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma ar adroddiad ein pwyllgor newid hinsawdd ni. Diolch i'r Cadeirydd, Mike Hedges, am ei gyflwyniad agoriadol ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae yna sawl argymhelliad, ac, wrth gwrs, tra bo'r Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw, nid ydyn nhw'n derbyn nifer o rai eraill hefyd. Awn ni drwy'r rheini rŵan yn fuan.

Yn amlwg, ni fydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd eu targed o leihau allyriadau o 40 y cant erbyn 2020. Mae hynny'n amlwg. Mae'r ystyadegau allyriadau diweddaraf yn 2015 yn dangos bod allyriadau Cymru dim ond 19 y cant o dan lefelau 1990, tra cwympodd allyriadau gweddill Prydain 27 y cant yn is na lefelau 1990. Yn amlwg, gall sefydlu targedau llai heriol rŵan gael ei weld fel gwobrwyo methiant yn y cyd-destun yma. Fel mae eraill wedi'i ddweud, ni fydd cynnydd ar daclo newid hinsawdd a'r argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n deillio o lygredd awyr nes bydd pob aelod o'r Cabinet yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif i dorri allyriadau yn eu meysydd portffolio unigol nhw.

Nawr, i droi at rai o'r argymhellion yn fyr— 

'Argymhelliad 5. Dylai Llywodraeth Cymru roi manylion i’r Pwyllgor am yr hyn y cred y dylai fod yn ofynion Cynllun Masnachu Allyriadau newydd yr UE'— un o'r rhesymau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu ddweud am fethiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd eu targed o ostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau erbyn 2020 ydy oherwydd rôl cynllun masnachu allyriadau'r Undeb Ewropeaidd, ETS. Fel mae hi'n ei ddweud,