Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 26 Medi 2018.
Rwy'n falch iawn o siarad yn adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond yn amlwg mae newid hinsawdd yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom yn y Siambr hon ac mae'n effeithio ar bob adran. Fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei glustnodi ar gyfer un pwyllgor penodol. Ac wrth gwrs, mae pawb ohonom wedi profi canlyniadau newid hinsawdd drosom ein hunain yn ddiweddar: y bwystfil o'r dwyrain a'r haf poethaf a gofnodwyd ers dros 40 mlynedd. Credaf felly fod newid hinsawdd yn amlwg yn un o'r materion mawr hynny sy'n bwysig iawn i ni i gyd, ac yn syml iawn ni allwn wadu bod ein hinsawdd yn newid. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau nad yw'n gwaethygu, a chredaf fod yr adroddiad hwn yn amlygu rhai o'r ffyrdd y gallwn ni yng Nghymru wneud ein rhan, ac yn sicr mae'n tynnu sylw at y ffaith y gallwn wneud llawer mwy nag a wnawn.
Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y rhan o'r adroddiad a oedd yn ymwneud â safonau ynni tai ac adeiladau a sut y gellir eu gwella ledled Cymru, ac roeddwn yn falch o weld y bydd y rhaglen Cartrefi Clyd yn ymdrin ag effeithlonrwydd ynni mewn 25,000 o gartrefi yn ystod y tymor hwn ac y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu 1,000 o fathau newydd o gartrefi ledled Cymru drwy'r rhaglen tai arloesol. Yn fy rôl fel cadeirydd pwyllgor monitro rhaglenni Cymru, bûm yn ddigon ffodus i ymweld â sawl prosiect a ariannwyd gan Ewrop sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid hinsawdd a gwella effeithlonrwydd ynni. Fel y mae'r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, caiff y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) ym Mhrifysgol Abertawe ei hariannu o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a'i nod yw troi adeiladau'n orsafoedd pŵer. Mae adeiladau fel gorsafoedd pŵer yn cynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni solar eu hunain, yn wres a thrydan. Mae hyn yn golygu bod adeiladau i bob pwrpas yn strwythurau gweithredol yn hytrach na strwythurau goddefol ac mae'n golygu bod allyriadau carbon mewn adeiladau yn cael eu dileu ac yn lleihau'n ddramatig y ddibyniaeth ar danwydd ffosil a nwy.
Mae hwn yn gynnydd enfawr, a gwn ein bod wedi siarad yn y Siambr hon am y datblygiadau hyn o'r blaen, ond mae'n anhygoel, rwy'n credu, eich bod yn gallu adeiladu tai sy'n weithredol, sy'n gallu cynhyrchu ynni mewn gwirionedd, ac mae'n ymddangos i mi fod yn rhaid cael ymdrech enfawr i wneud yn siŵr ein bod yn cael tai newydd sy'n cael eu hadeiladu yn ôl y safonau hynny. A dyna lle nad wyf yn credu ein bod yn gwneud cymaint ag y gallem ei wneud mewn gwirionedd. Pe bai'r holl dai yn y dyfodol yn cael eu hadeiladu yn y ffordd hon, byddem yn gweld gostyngiad dramatig yn y defnydd o danwyddau ffosil, a byddai cartrefi yn cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy a glân. Felly, mae gennym hynny. Mae'r dechnoleg honno wedi cael ei datblygu yma yng Nghymru, yn Abertawe, ac mae'n cael ei—. Mae datblygiadau ar raddfa fach yn ei defnyddio. Ond yng Nghaerdydd, mae gennym filoedd o dai newydd yn cael eu hadeiladu, oherwydd y boblogaeth sy'n cynyddu yng Nghaerdydd, a llawer ohonynt yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, ac wrth siarad â datblygwyr tai preifat, ni fydd yr un ohonynt yn cynnwys y tai gweithredol hyn yn y datblygiadau. Felly, credaf fod hynny'n anffodus tu hwnt, a gwn fod adolygiad ar y gweill o'r rheoliadau adeiladu, felly rwy'n gobeithio y bydd y rheoliadau adeiladu'n sicrhau rhywbeth a fydd yn galluogi adeiladwyr i symud ymlaen yn y modd hwn. [Torri ar draws.] Iawn, yn bendant.