Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 26 Medi 2018.
Bydd y cynllun a fydd yn dilyn y cynllun masnachu allyriadau Ewropeaidd yma yn chwarae rôl allweddol felly yn sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd eu targedau lleihau allyriadau. Mae'n fater o siom, felly, bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 5 ond mewn egwyddor—yr hen dric yna o dderbyn pethau mewn egwyddor eto yn lle jest eu derbyn nhw a mynd amdani.
Nawr, mae cynllun masnachu allyriadau'r Undeb Ewropeaidd yn un o'r 24 maes datganoledig sy'n disgyn o dan y trafodaethau a fframweithiau cyffredin dan adain y cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn teimlo'n rhwystredig—eu geiriau hi—am y diffyg cynnydd yn y mater yma, ond mae hyn yn ganlyniad naturiol pan ydym ni wedi gorfod derbyn rhewi ein pwerau o ganlyniad i bleidlais yn y lle yma ar Fil ymadael Ewrop. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwybod y gallant yrru'r agenda pan fo pethau'n effeithio ar Gymru heb orfod cymryd sylw o unrhyw beth rydym ni'n ei ddweud.
A throi at argymhelliad 8—
'ymrwymo i darged cenedlaethol o 20 y cant o orchudd canopi coed trefol'— rydym ni wedi clywed cryn dipyn am y targedau coed. Af i ddim dros yr un un ffigurau, ond gall goed leihau carbon a lleihau llygredd awyr, yn amlwg. Mae Llywodraeth Cymru yn bell ar ei hôl hi yn nhermau plannu rhagor o goed, ac mae'n fater o siom eto bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 8 i fynd ar ôl y targed yma o blannu rhagor o goed. Dylai fod rheidrwydd naturiol ar Lywodraeth i weithredu a derbyn argymhelliad 8, yn enwedig o gofio gofyniadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gan droi at argymhelliad 13 yn y cyflwyniad swmpus yma—
'Dylai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth adolygu Deddf Teithio Llesol (Cymru)'— yn amlwg, fel mae eraill wedi'i ddweud, mae trafnidiaeth yn faes lle gellir gwneud lleihad sylweddol mewn allyriadau carbon a helpu lleihau llygredd awyr hefyd ar yr un pryd. Eisoes, mewn dadleuon a chwestiynau cyn heddiw yn y Siambr yma, rydym ni wedi clywed rhai yn olrhain pa mor annigonol ydy ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod i weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae'n fater o siom, felly, fod yr argymhelliad yma, argymhelliad 13, y dylai'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth—bydd yn rhaid i'r Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrth ei chyfaill am hyn—
'adrodd yn ôl i’r Pwyllgor o fewn 6 mis' ar sut mae'n dod i adolygu gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru)—. Mae'r argymhelliad hwn dim ond eto wedi ei dderbyn mewn egwyddor; nid yw wedi'i dderbyn bod angen adolygiad—dim ond wedi ei dderbyn mewn egwyddor. Wedi'r cwbl, mae hynny'n fater o siom. Mae bron i bum mlynedd wedi pasio ers pasio'r Ddeddf yma. Erys graddfeydd teithio llesol yr un peth, ac mae llai o blant yn cerdded neu'n seiclo i'r ysgol.
I gloi, rŵan, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £60 miliwn dros dair blynedd o dan y Ddeddf yma—tua £10 y pen y flwyddyn—sydd yn sylweddol llai nag argymhelliad pwyllgor economi'r Cynulliad yma o £17 i £20 y pen bob blwyddyn. Cymharer hynny efo cost o £1.4 biliwn am lwybr du'r M4. Erys heriau sylweddol. Diolch yn fawr.