Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 26 Medi 2018.
Mae'n hanfodol, Ddirprwy Lywydd, fel y mae pobl eraill wedi dweud, ein bod yn cydnabod bod y pryderon a godwyd gan y rhai sy'n cefnogi'r ddeiseb hon yn ddilys. Maent yn seiliedig ar brofiad blaenorol o newidiadau i wasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg dros y 15 mlynedd diwethaf—newidiadau sydd wedi arwain at broblemau sylweddol iawn—ac mae'n bwysig myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'r ad-drefnu hwnnw. Os caiff gwasanaethau hanfodol dan arweiniad meddygon ymgynghorol eu dileu neu eu hadleoli, gwyddom ei bod hi'n hanfodol fod asesiadau risg effeithiol yn cael eu cynnal a mesurau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y cleifion cywir yn cyrraedd y lle iawn i gael eu trin yn y mannau iawn, a rhaid i'r mesurau hyn fod yn gadarn.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio na ddigwyddodd hyn mewn rhai achosion trasig, yn dilyn, er enghraifft, y newidiadau i wasanaethau mamolaeth. Bydd yn cofio canfyddiad yr ombwdsmon yn 2016 fod babi wedi marw o ganlyniad i ofal gwael a methiant i asesu lefel y risg yn briodol yn ystod beichiogrwydd, pan anwybyddwyd cais y claf i roi genedigaeth mewn lleoliad mwy arbenigol yng Nglangwili. Nawr, hyderaf fod y gwersi o'r achos unigol hwn wedi'u dysgu, ond mae'n hanfodol ein bod yn cofio bod yr achos hwn yn ffurfio rhan o'r cefndir i bryderon y gymuned ynglŷn â newidiadau arfaethedig pellach i wasanaethau a arweiniodd at y ddeiseb hon. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a'r bwrdd iechyd yn trin y pryderon hyn y gellir eu cyfiawnhau gyda'r difrifoldeb y maent yn ei haeddu. Yn anffodus, o ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol, nid wyf yn obeithiol.
Nid yw Plaid Cymru'n credu y bydd argymhellion y bwrdd iechyd yn ymdrin â sut y bydd gwasanaethau'n gwella yn y tymor byr i'r tymor canolig. Maent yn cyfeirio, er enghraifft, yn eu datganiad heddiw at yr angen i weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol, ond nid yw'n dweud dim ynglŷn â sut. A buaswn yn cytuno gyda'r hyn a ddywedodd eraill ei bod hi'n bwysig aros am y manylion, ond does bosibl fod raid inni aros 20 mlynedd arall am y manylion hyn. Nid yw'n dweud dim ynglŷn â sut, ac a dweud y gwir, rydym wedi clywed y cyfan o'r blaen. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi y byddai'r uwchysbyty newydd arfaethedig yn datrys yr holl broblemau y mae'r bwrdd iechyd yn ei obeithio, ac rydym ymhell o fod wedi ein hargyhoeddi, a dweud y gwir, y caiff ei adeiladu o gwbl, er cymaint y bydd rhai ohonom efallai'n gobeithio gweld hynny.
Nid yw amser yn caniatáu imi nodi ein hargymhellion amgen yn fanwl, ac rwy'n ymwybodol o gyfarwyddiadau'r Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, byddwn yn hapus i rannu'r argymhellion hyn eto gyda'r bwrdd iechyd a chydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae un peth yn hollbwysig: rhaid peidio ag ad-drefnu gwasanaethau acíwt hyd nes y bydd y newidiadau a ragwelir a datblygiadau mewn gwasanaethau cymunedol ac arferion gwaith yn eu lle, a hyd nes y bydd y gwasanaethau acíwt newydd yn eu lle. Rhaid inni gael dulliau newydd o weithio ar y cyd rhwng y byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol, a rhaid inni gael darpariaeth iechyd a gofal integredig a chyfannol a ddarperir yn lleol, gydag un linell reoli ac atebolrwydd. A rhaid inni sicrhau, os ydym yn trosglwyddo cleifion o ysbytai i leoliadau brys, fod y ddarpariaeth briodol ar waith. Mae angen uned sefydlogi trawma y gallai claf fynd iddi ym mhob ysbyty, ym mhob lleoliad, ac mae dirfawr angen cynlluniau recriwtio a datblygu ar gyfer y sector cyfan ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mewn gwlad o faint Cymru, ni allaf ddeall pam na allwn gynllunio ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn briodol, a buaswn yn dadlau bod arnom angen dyblu nifer y myfyrwyr meddygol sy'n hyfforddi yn Abertawe, er enghraifft, oherwydd gwyddom y bydd y myfyrwyr hynny'n aros yng ngorllewin Cymru.
Ddirprwy Lywydd, nid oes neb ym Mhlaid Cymru yn awgrymu na ddylai gwasanaethau iechyd newid; nid wyf yn dychmygu bod unrhyw un yn y Siambr hon yn awgrymu hynny. Mae'n wir fod gennym, i ryw raddau, batrwm ugeinfed ganrif o wasanaethau nad ydynt yn bodloni anghenion yr unfed ganrif ar hugain. Ond wrth gyflawni'r newid hwnnw, mae angen inni adeiladu'r ymddiriedaeth yn y cymunedau y mae'r gwasanaethau hynny yno i'w gwasanaethu, ac ni allwn wneud hynny os ydym yn gwrthod eu pryderon dilys. Mae angen i'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru wrando ar y pryderon a leisiwyd gan y rhai sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon. Ni ddylid gwneud unrhyw newidiadau pellach i wasanaethau yn Llwynhelyg nac unrhyw ran arall o'r rhanbarth hwn hyd nes y bydd gwasanaethau amgen effeithiol yn eu lle. Diolch yn fawr.