10. Dadl Fer: Gweld pethau'n wahanol — Byw gyda cholli golwg yng Nghymru heddiw

– Senedd Cymru am 5:50 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:50, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Symudwn yn awr at y ddadl fer.  Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? Os ydych yn gadael y Siambr, os gwelwch yn dda, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel, oherwydd rwy'n symud at y ddadl fer, a galwaf ar Nick Ramsay i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Nick Ramsay.

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar yn y cyflwyniad. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:

Cyflwyniad clyweledol.

(Cyfieithwyd)

'Nid yw colli golwg yn fater du a gwyn.'

'Gall 93 y cant ohonom sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall weld rhywbeth.'

'Glawcoma yw'r cyflwr ar fy llygaid, ac os dychmygwch, yn fy llygad chwith nid oes gennyf unrhyw ganfyddiad o oleuni o gwbl, felly mae'n hollol ddu, ac yn fy llygad dde, mae bron fel pe bawn yn edrych drwy beiriant niwl dyfrllyd ac aneglur iawn, os mynnwch.'

'Mae gennyf syndrom Usher math 2. Mae'n gyfuniad o nam ar y clyw a retinitis pigmentosa. Y camsyniad mwyaf cyffredin am fy ngolwg yn fwyaf arbennig yw nad wyf fi'n "edrych yn ddall".'

'Mae gennyf ddirywiad macwlaidd. Ni allaf weld eich wyneb, dim ond blob mawr crwn yno ac mae gennyf olwg dwbl hefyd. Roedd y ddwy flynedd gyntaf yn erchyll, roedd fel profedigaeth mewn gwirionedd. Roedd cymaint o ofn arnaf. Gallwn grio. Mae pobl yn hollol wych, ond heb y ffon wen, ni fuaswn mor hyderus.'

'Yn y DU, mae mwy na 2 filiwn o bobl yn byw gyda nam ar eu golwg. Nid yw cael eich cofrestru'n ddall yn golygu na allwch weld unrhyw beth. Ceir sbectrwm cyfan o namau ar y golwg a dyna sydd angen i bobl ei wybod.'

'RNIB Cymru. Gweld yn wahanol.'

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:52, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Dai Lloyd yn ystod y ddadl. Cynhyrchwyd y fideo a welsoch yn awr gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion, ac mae'n rhan o'r ymgyrch 'How I See' ac yn tynnu sylw at nifer o faterion yr hoffwn eu cyflwyno i chi heddiw.

Yn aml dywedir mai'r golwg yw'r synnwyr y byddai pobl fwyaf o ofn ei golli, ac mae'n gallu bod yn anodd. O anhawster i gael triniaeth a gwasanaethau i ddiffyg cymorth emosiynol ac ymarferol, mae pobl ddall a rhannol ddall fel ei gilydd yn wynebu eu set eu hunain o heriau bob dydd.

Mae teimladau o unigrwydd yn annerbyniol o uchel, ac un o bob pedwar yn unig o bobl ddall neu rannol ddall o oedran gweithio sydd mewn gwaith. A gwyddom y bydd y niferoedd yn cynyddu'n ddramatig. Mae tua 107,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda nam ar eu golwg a disgwylir i hyn ddyblu dros yr 20 mlynedd nesaf. Golyga hynny y bydd tua 218,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda nam ar eu golwg erbyn 2050.

Mae nam ar y golwg yn effeithio ar bobl o bob oed, ond wrth inni fynd yn hŷn, rydym yn fwyfwy tebygol o gael profiad ohono. Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn fwy tebygol o gael codwm ac yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Maent yn fwy tebygol o ddioddef iselder, o fod yn ddi-waith ac o gael problemau gyda bywyd bob dydd, megis mynd allan, coginio a darllen. Heddiw, rwyf am gyffwrdd â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ddall a rhannol ddall a'n herio ni i weld a gwneud pethau'n wahanol.

Gan fod y rhan fwyaf o gyflyrau'r golwg yn ddirywiol, ond fod modd eu trin hefyd, mae'n hanfodol fod gan bobl fynediad amserol at ofal llygaid a thriniaeth barhaus. Offthalmoleg yw un o'r gwasanaethau allanol mewn ysbytai gyda'r nifer uchaf o gleifion, ac mae gan lawer o gleifion llygaid angen parhaus am ofal dilynol amserol i gadw eu golwg. Fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar olwg, rwyf wedi clywed gan gleifion ar restrau aros clinigau llygaid ysbytai fod eu hapwyntiadau'n cael eu canslo heb fawr o rybudd o gwbl. Gwn fod gennym aelodau eraill o'r grŵp yma heddiw hefyd. Gallai oedi cyn cael triniaeth roi pobl mewn perygl o golli eu golwg am byth. Wedi dweud hynny, hoffwn groesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad i gefnogi gweithrediad y mesurau offthalmig newydd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau—y genedl gyntaf yn y DU i gael mesurau penodol ar gyfer gofal llygaid. Dyma rywbeth rwyf wedi bod yn ei hyrwyddo ers nifer o flynyddoedd ac wedi codi'r angen amdano yn fy nadl ddiwethaf ar y pwnc hwn.

Bydd y mesurau newydd hyn yn darparu targedau a gymeradwywyd yn glinigol ac yn blaenoriaethu cleifion yn ôl eu risg o golli eu golwg yn barhaol. Ni ddylai neb golli eu golwg yng Nghymru oherwydd cyflwr llygaid y gellir ei drin. Edrychaf ymlaen at glywed bod byrddau iechyd wedi gweithredu'r mesurau newydd hyn ac at gael yr adroddiadau cynnydd cyntaf ym mis Ebrill 2019. Mae'n hen bryd inni gael tryloywder gan fyrddau iechyd ynghylch nifer y cleifion sydd mewn perygl o golli eu golwg. Mae hwn yn newid hirddisgwyliedig i'r system gofal llygaid yng Nghymru, a gadewch inni beidio ag anghofio'r cleifion yn hyn oll. Mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hysbysu'n llawn ynglŷn â'r newidiadau, ac yn deall beth y maent yn ei olygu i'w gofal a'u triniaeth.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:55, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

I bobl sy'n byw gyda nam ar y golwg, gall effeithio ar bob agwedd ar fywyd—iechyd corfforol a meddyliol, y gallu i fyw'n annibynnol, i ddod o hyd i swydd neu i gadw swydd, eu teulu a'u bywyd cymdeithasol. Mae mynediad amserol at gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn hanfodol i helpu i liniaru effaith nam ar y golwg. Mae adsefydlu yn wasanaeth arbenigol sy'n helpu rhywun sydd â nam ar y golwg i addasu i'r byd o'u hamgylch. Mae'r gwasanaeth yn cynorthwyo pobl i ail-ddysgu sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw bywyd annibynnol. Gallai gynnwys cymorth emosiynol, help gyda symudedd, cymhorthion ac addasiadau, neu help gyda gweithgarwch bywyd bob dydd megis golchi dillad, coginio a glanhau.

Nawr, bob blwyddyn yng Nghymru bydd hanner y bobl dros 80 oed yn cael codwm yn eu cartref. Priodolwyd bron i hanner yr holl godymau y bydd pobl ddall a rhannol ddall yn eu cael i'r nam ar eu golwg. Yn ogystal, amcangyfrifwyd bod codymau'n costio £67 miliwn y flwyddyn yn uniongyrchol i'r GIG. Amcangyfrifir bod cost codymau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r golwg yn unig yn £25 miliwn bob blwyddyn. Mae'n gwbl amlwg yn fy marn i y dylai adsefydlu gael ei gynnig i'r holl bobl ddall a rhannol ddall. Amcangyfrifir bod gwerth economaidd adsefydlu'n ymwneud â'r golwg yn £4,487 am bob claf a atgyfeirir.

Fodd bynnag, mae'n annerbyniol ein bod yn rhy aml yn gweld loteri cod post yng Nghymru ar gyfer mynediad at ofal adsefydlu. Mewn rhai rhannau o'r wlad, mae rhai pobl yn gorfod aros dros 12 mis i weld swyddog adsefydlu arbenigol, a gallai cyflwr eu golwg ddirywio yn ystod yr amser hwnnw ac mae perygl y gallent gael eu hynysu'n gyflym. Bydd 43 y cant o bobl sy'n colli eu golwg yn dioddef iselder sylweddol a gwanychol. Gwaethygir y broblem ymhellach gan y ffaith nad oes digon o bobl yn cael eu hyfforddi i gymryd lle swyddogion adsefydlu sy'n ymddeol. Mae elusennau yn y sector colli golwg yn pryderu fwyfwy ynghylch y ddarpariaeth adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Mewn rhai mannau, mae amseroedd aros yn annerbyniol o hir, ac mewn eraill mae pobl yn cael eu sgrinio allan o asesiadau adsefydlu'n llwyr neu'n cael eu hasesu gan staff heb gymwysterau. Mae angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddatblygu llwybrau atgyfeirio clir i adsefydlu a gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar lle nad yw hyn eisoes yn digwydd. Mae'n annerbyniol nad yw'r proffesiwn hwn yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae angen inni sefydlu cynlluniau ar gyfer datblygu'r gweithlu yn y dyfodol ac annog pobl i'r rôl. Yn y pen draw, mae angen inni wneud yn siŵr fod pobl yn cael mynediad amserol at wasanaethau adsefydlu ni waeth ble maent yn byw, i'w galluogi i fyw bywyd mor llawn ac annibynnol â phosibl.

I droi at y gallu i gael gafael ar wybodaeth a chyngor, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n colli eu golwg hefyd yn colli eu gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng print arferol. Mae hyn yn hanfodol i unrhyw un allu cynnal eu lles a chael llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau.

Yn 2013, lansiwyd y safonau gofal iechyd hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau yng Nghymru. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i nodi sut y bydd gwasanaethau GIG yn cael eu darparu'n hygyrch i bobl sy'n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall, yn rhannol ddall neu sydd â nam ar y golwg a'r clyw. Gallai gwybodaeth hygyrch olygu cael gwybodaeth mewn Braille, mewn print bras, mewn fformat sain neu e-bost—beth bynnag sy'n iawn ar gyfer y claf hwnnw i'w cynorthwyo i gymryd rhan mor llawn â phosibl yn eu gofal iechyd. Ond bellach aeth pum mlynedd heibio ers i ni lansio'r safonau hynny. Y gwir plaen yw mai effaith gyfyngedig a gafodd hyn, ac mae pobl yn dal i wynebu rhwystrau mawr i ofal iechyd. Mae cleifion yn dal i adael yr ysbyty bob dydd yn ansicr ynglŷn â faint o feddyginiaeth y maent i fod i'w gymryd, neu'n ansicr ynglŷn â pha gyngor a roddwyd iddynt. Do, gwelwyd cynnydd araf mewn rhai meysydd, ond yn gyffredinol, mae elusennau megis RNIB ac Action on Hearing Loss yn dweud wrthym na fu llawer o newid amlwg i bobl â nam ar y synhwyrau yng Nghymru. At hynny, roeddem yn falch, ac yn briodol felly, mai Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i weithredu'r safonau. Felly pam nad ydym yn ddim gwell nag ar draws y ffin yn Lloegr mewn llawer o ffyrdd o hyd? Yn sicr, mae'n hen bryd i'r safonau, fel safonau'r Gymraeg a phethau eraill, ddod yn orfodol. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn pennu targedau blynyddol gan bob bwrdd iechyd i fonitro'r gwelliannau? Mae hwn yn fater sy'n ymwneud â diogelwch cleifion. Mae angen i gleifion allu gymryd rhan yn eu hymgyngoriadau â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'u deall yn iawn.

Mae'r amgylchedd adeiledig yn faes arall lle gallwn leihau'r rhwystrau i bobl ddall a rhannol ddall. Mae rhaglen Visibly Better RNIB Cymru yn cynorthwyo sefydliadau i ddatblygu amgylcheddau y bydd rhagor o bobl yn teimlo'n hyderus i fynd i mewn iddynt ac o'u cwmpas. Mae'r egwyddorion dylunio yn helpu i atal codymau a meithrin hyder drwy sefydlu lefelau goleuo priodol, lliw a chyferbyniad tonyddol, a gosodiadau a ffitiadau sy'n helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas. Defnyddiwyd dylunio Visibly Better mewn adran radioleg ar ei newydd wedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Bellach mae'r holl ardal yn llawer haws i gleifion allu dod o hyd i'w ffordd o gwmpas yn hyderus ac yn ddiogel. Mae angen inni ddiogelu ein hamgylcheddau ar gyfer ein poblogaeth sy'n heneiddio, ac mae angen cymhwyso ymrwymiad i'r egwyddorion hyn ar gyfer mannau cyhoeddus eraill yn y dyfodol.

Os caf gyffwrdd ar ofod a rennir, ar y wyneb mae'r cysyniad o ofod a rennir yn un sy'n apelio'n fawr. Caiff gofodau eu dadreoleiddio i sicrhau nad oes gan unrhyw un ymdeimlad o flaenoriaeth. Rhennir y gofod â cherbydau, cerddwyr a beicwyr. Mae hyn i gyd yn swnio'n dda iawn, ond mae'n dibynnu ar y gallu i wneud cyswllt llygad ac nid yw hynny'n hawdd os na allwch weld. Mae hynny'n golygu bod y gofod hwnnw'n anniogel ac angen ei osgoi. Gall y sefyllfa hon waethygu drwy gael gwared ar groesfannau a'r gwahaniaeth rhwng palmentydd a ffyrdd. Cyflwynwyd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 gyda'r nod sylfaenol o hyrwyddo budd cynyddol cerdded a beicio. Fodd bynnag, mae perygl na fydd pobl ddall a rhannol ddall yn teimlo'r buddion hyn pan fydd cynllunio gofod a rennir yn wael yn eu rhoi mewn perygl o wrthdrawiad â beicwyr, felly gall rhywbeth sy'n dechrau fel syniad da arwain at ganlyniad gwahanol yn y pen draw. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd gan y gymdeithas cŵn tywys fod 97 y cant o'r bobl sydd â nam ar eu golwg wedi mynd benben â blerwch stryd fel byrddau A.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn fynd i'r afael â mater trafnidiaeth. Mae llawer o bobl ddall a rhannol ddall yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y rhan fwyaf o'u teithiau bob dydd. Mewn ardaloedd gwledig lle gall pobl deimlo'n fwy ynysig a lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn bellach i ffwrdd, mae pobl ddall a rhannol ddall yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n aml yn hen, ac arosfannau bysiau heb wybodaeth. Mae hynny'n effeithio ar bobl sy'n gweld yn iawn hefyd, felly mae pawb ohonom yn deall y problemau hynny.

A gaf fi orffen drwy ddymuno pen blwydd hapus iawn eleni i'r RNIB wrth iddynt ddathlu 150 o flynyddoedd o hyrwyddo hawliau pobl ddall a rhannol ddall? Mae angen inni yng Nghymru ddod o hyd i atebion newydd a ffyrdd newydd o adeiladu gwlad lle mae cyfranogiad cyfartal pobl ddall a rhannol ddall yn norm. Rhai yn unig o'r rhwystrau y mae pobl sy'n colli eu golwg yn eu hwynebu bob dydd yw'r rhain, a gwn y gallwn fynd i'r afael â hwy. Gallwn wneud pethau'n wahanol, a gallwn weld pethau'n wahanol. Diolch yn fawr.   

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ganmol cyflwyniad rhagorol Nick Ramsay a nododd yr holl ffeithiau a manylion? Ac mae'n dda cael tynnu sylw at fater nam ar y golwg yma yn y Cynulliad, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar olwg. Fel y crybwyllodd Nick, yn gynharach yn yr haf cawsom ffigurau a oedd yn dangos bod 54,000 o gleifion yng Nghymru ar restrau aros am ofal dilynol mewn clinigau offthalmoleg yn ein hysbytai mewn perygl o golli eu golwg. Pobl yw'r rhain a gafodd eu gweld gan arbenigwyr, ac a oedd i fod i gael eu gweld eto ymhen tri neu chwe mis—roedd ganddynt glawcoma, neu beth bynnag—ond roedd yr apwyntiadau hynny bob amser yn cael eu gohirio am amryw o resymau, ac weithiau ni fyddent yn cael eu gweld am fisoedd, neu flynyddoedd weithiau. Maent mewn perygl: roedd 90 y cant o'r achosion o golli golwg yn digwydd pan oedd y cleifion ar y rhestr aros am ofal dilynol. Mae angen mynd i'r afael â'r sefyllfa hon, oherwydd roedd y bobl hyn wedi cael diagnosis ac maent wedi'u colli i ofal dilynol oherwydd oedi. Mae yna fentrau ar gael, fel y dywedodd Nick, ac rydym yn disgwyl i'r Llywodraeth sicrhau gostyngiad yn y ffigurau hynny. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:04, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl? Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a llawer iawn o ddiolch i Nick Ramsay am godi'r mater pwysig hwn, ac rwy'n falch o allu siarad am y camau y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn eu cymryd i helpu i ddileu'r rhwystrau ar gyfer pobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall, neu i weld yn wahanol fel y mae Nick Ramsay wedi'i roi.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fuddsoddiad o £4 miliwn yn rhan o fesurau i drawsnewid gwasanaethau gofal llygaid ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis a thriniaeth yn gynt. Rydym wedi gofyn am gyngor gan banel annibynnol ar sut i ddyrannu'r £4 miliwn, ac rydym yn gweithio i gynnwys pawb yn y broses o gynllunio'r ffordd orau o weithredu newidiadau neu safoni a symleiddio'r hyn sy'n cael ei wneud eisoes. Byddwn yn sicrhau bod ein cleifion yn cael y wybodaeth lawn am unrhyw newidiadau ac yn deall beth y mae'n ei olygu i'w triniaeth gyfredol. Rydym yn derbyn yn llwyr yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay am bobl yn cymryd rhan ac yn ymwneud yn y gofal y maent yn ei gael.

Photo of Julie James Julie James Labour 6:05, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd y newidiadau yn y gwasanaeth yn cefnogi'r mesur perfformiad newydd sydd i'w gyflwyno yn ddiweddarach y mis hwn a bydd yn seiliedig ar anghenion clinigol cleifion. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno mesur o'r fath ar gyfer cleifion gofal llygaid ochr yn ochr â'r targed amseroedd aros presennol rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau offthalmig yn hysbys. Cyfeiriodd Nick Ramsay at nifer ohonynt.

Mae nifer y bobl sydd â phroblemau gyda'u golwg yn cynyddu'n ddramatig, ac fel y cyfryw mae'n amlwg y bydd y baich ar y gwasanaethau presennol hefyd ar gynnydd. Fel y mae'r fideo'n dangos inni'n ddramatig iawn, ac yn gwbl briodol felly, mae bron 107,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda nam ar y golwg ar hyn o bryd, a rhagwelir y bydd y nifer yn dyblu erbyn 2050. Mae gwella hygyrchedd a chyflymu diagnosis yn hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau gofal llygaid yn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym yn cydnabod yn bendant fod rhai amseroedd aros yn rhy hir ac mae mawr angen newid y system gofal llygaid—dyna pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn cyhoeddi'r rhain. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio ochr yn ochr â'r gymuned.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi pwysleisio ein bod yn disgwyl i'r holl gleifion gael eu gweld cyn gynted â phosibl ac yn ôl eu hangen clinigol. Fel y dywed Nick Ramsay, rydym yn briodol falch o'r ffaith mai ni yw'r Llywodraeth gyntaf yn y byd i gael cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid a'r wlad gyntaf yn y DU bellach i gyflwyno mesur perfformiad o'r math hwn ar gyfer gofal llygaid. Mae'r newidiadau hyn yn cyd-fynd â 'n gweledigaeth hirdymor ar gyfer y GIG yng Nghymru i drawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau a sicrhau gofal o ansawdd yn nes at gartrefi pobl.

Rydym hefyd yn cyflwyno llwybrau newydd ar gyfer cleifion i'w hatal rhag colli eu golwg a'u cynorthwyo'n well i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Ers 2001, mae gwasanaeth gofal llygaid GIG Cymru wedi galluogi optometryddion ac offthalmolegwyr, felly haenau gofal sylfaenol ac eilaidd, i weithio ar frig eu trwyddedau i leihau nifer y cleifion sy'n cael eu cyfeirio at adrannau gofal llygaid mewn ysbytai. Mae'r gwasanaeth yn gweithio i ddiogelu'r golwg yn gyntaf drwy ganfod clefydau ar y llygaid yn gynnar a darparu cymorth wedyn i'r rheini sydd â nam ar y golwg pan nad yw'n briodol i roi triniaeth bellach.

Ceir dau wasanaeth offthalmig sy'n unigryw i Gymru ac maent yn darparu gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel i bobl â phroblemau llygaid, sef y gwasanaeth archwiliadau iechyd llygaid, sy'n galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau yn eu practis optometreg lleol yn lle'u meddygfa neu adran ysbyty, a gwasanaeth sgrinio llygaid diabetig Cymru, sy'n sgrinio pob claf sydd â retinopatheg diabetig i helpu i'w hatal rhag mynd yn ddall yn ddiangen.

Yn ogystal â gwella llwybrau cleifion, roedd Nick Ramsay yn iawn hefyd i roi sylw i faterion yn ymwneud â'r gwaith hanfodol sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cefnogi byw'n annibynnol. Mae'r Llywodraeth yn hynod o falch o allu hybu'r model cymdeithasol o anabledd. Hynny yw, rydym yn cydnabod bod rhwystrau amgylcheddol, ymagweddol a sefydliadol i gydraddoldeb a chynhwysiant sy'n rhaid eu dileu er mwyn sicrhau chwarae teg ac i wneud yn siŵr fod unrhyw un sy'n byw gydag anabledd yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall. Yr un yw ein hymagwedd at bobl sydd â nam ar y golwg.

Trydydd gwasanaeth gofal llygaid sydd hefyd yn unigryw i Gymru yw'r gwasanaeth golwg gwan. Mae hwn yn galluogi pobl sy'n byw â chyflyrau golwg i wneud y defnydd gorau o'r golwg sydd ganddynt drwy bresgripsiynu cymhorthion golwg gwan a'u galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl. Gan weithio gyda gwasanaethau golwg gwan ar gyfer Cymru, rydym yn gweithio i sicrhau atgyfeiriadau effeithiol at y gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector i gynnig help i rai â nam ar eu golwg i bennu pa gymorth y maent ei angen a'i eisiau.

Byddwn yn cyhoeddi fframwaith newydd o'r enw gweithredu ar anabledd, yr hawl i fyw'n annibynnol ym mis Hydref eleni—y mis hwn yn wir. Bydd y fframwaith newydd yn parhau i fod yn seiliedig ar y model cymdeithasol o anabledd. Rydym wedi bod yn ymgysylltu'n helaeth â phobl anabl a'u sefydliadau cynrychioliadol dros y flwyddyn ddiwethaf i nodi'r meysydd anghydraddoldeb sydd bwysicaf i bobl o bob oed yng Nghymru, ynghyd ag atebion posibl.

Mae ein huchelgais ar gyfer y gwasanaeth golwg gwan yn un o nifer o gamau gweithredu yng nghynllun gweithredu'r fframwaith i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau allweddol a nodwyd gan bobl anabl eu hunain. Ni fydd y rhwystrau allweddol hyn yn syndod i'r Aelodau eu clywed. Nododd Nick Ramsay lawer ohonynt, sef: gwybodaeth hygyrch, mynediad i adeiladau, mynediad i ofodau a rennir, gan gynnwys llwybrau teithio llesol a phroblemau gyda blerwch stryd, a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Credaf eich bod wedi tynnu sylw at bob un o'r rheini yn eich cyfraniad, Nick.

Hefyd, ym mis Rhagfyr 2013, cyflwynwyd safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu hygyrch a gwybodaeth ar gyfer pobl â nam ar y synhwyrau. Nod y safonau ar gyfer Cymru gyfan yw gosod y safonau darparu gwasanaeth y dylai pobl â nam ar y synhwyrau ddisgwyl eu cael wrth iddynt wneud defnydd o ofal iechyd yng Nghymru. Rhan allweddol o'r safonau ar gyfer Cymru gyfan yw'r gofyniad y dylid diwallu angen pob claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth am gymorth i gyfathrebu.

O ganlyniad i'r gofyniad hwn, cyhoeddwyd y safon gwybodaeth data hygyrch newydd i ddiwallu'r angen i ddarparu cymorth cyfathrebu. Prosiect cenedlaethol yw hwn, dan arweiniad Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â'r Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a phartneriaid trydydd sector. Mae'r safon yn galluogi meddygfeydd i gasglu, cofnodi, fflagio a rhannu anghenion cyfathrebu gwybodaeth cleifion â nam ar y synhwyrau. Mae'n offeryn, neu'n alluogydd i helpu practisau meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gyflawni eu dyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag anableddau. Mae hefyd yn galluogi meddygfeydd i wneud hyn mewn modd cyson ar draws pob bwrdd iechyd. Ac yn ogystal, erbyn hyn cyhoeddwyd cylchlythyr iechyd Cymru gyda chynllun gweithredu'n rhoi manylion y safon data hygyrch newydd.

Un o'r meysydd eraill rwyf am sôn amdano hefyd—ac unwaith eto, nododd Nick Ramsay hyn—yw mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl sy'n byw gydag anableddau, gan gynnwys nam ar y golwg a cholli golwg. Mae 75,000 o bobl anabl yng Nghymru naill ai wrthi'n chwilio am waith neu'n awyddus iawn i weithio. Ar hyn o bryd 45 y cant yn unig o bobl anabl o oedran gweithio sydd mewn gwaith, o'i gymharu ag 80 y cant o bobl nad ydynt yn anabl, ac mae'n fwlch cyflogaeth anabledd eithaf syfrdanol o tua 35 y cant.

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn y sector hwn i nodi'r rhwystrau oherwydd eu bod yn aml iawn y tu hwnt i reolaeth y person anabl. Felly rhwystrau o ran systemau sefydliadol, agweddau, a ffactorau ffisegol ac amgylcheddol. Mae llawer o'r ymrwymiadau a nodir yn ein cynllun cyflogadwyedd yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth anabledd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r problemau, gan gynnwys agweddau cyflogwyr, cynllunio gwaith ac arferion gwaith.

Roeddwn yn falch iawn o siarad mewn uwchgynhadledd ar gynhwysiant cyflogadwyedd yn Abertawe ddydd Gwener diwethaf, lle cefais y fraint a'r pleser o gyfarfod â nifer fawr o bobl anabl a siarad â hwy ynglŷn â rhai o'r rhwystrau yr oeddent wedi'u hwynebu, ond yn llawer pwysicach, ac yn galonogol, siaradais â hwy am beth o'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr, ac roedd nifer fawr o gyflogwyr yno a oedd yn abl, yn frwdfrydig ac yn barod iawn i edrych ar rai o'r addasiadau bach y gallent eu gwneud i sicrhau y gallent barhau i gyflogi pobl ag anableddau.

Rydym hefyd wedi sefydlu gweithgor swyddogion ar gydraddoldeb a chyflogaeth, sy'n cynnwys sbarduno camau gweithredu ar anabledd mewn cyflogaeth, i gefnogi ein hymrwymiadau yn ein cynllun cyflogadwyedd i gynyddu nifer y bobl anabl mewn gwaith. Mewn partneriaeth â phobl anabl, rydym yn gweithio i ddatblygu targed ystyrlon a fydd yn adlewyrchu eu hanghenion a'u dymuniadau ac a fydd yn uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysgogi'r newid sydd ei angen, mewn gweithleoedd ac yn y gymdeithas, er mwyn chwalu'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor wrth eu bod yn chwilio am waith.

Hoffwn ddweud ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn gwybod bod cyflogwyr yn cael sioc yn aml mewn treialon, pan gaiff nodweddion personol eu hepgor o ffurflenni cais, wrth ddarganfod bod yr unigolyn yr oeddent wedi dweud yn flaenorol nad oeddent yn dderbyniol iddynt yn meddu ar bob un o'r cymwysterau angenrheidiol mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod bod y bwlch cyflogaeth hwn yn bodoli ar bob lefel sgiliau. Felly, cyflogir llai o bobl anabl sydd â PhD na phobl eraill sydd â PhD, a'r holl ffordd i lawr ceir bwlch sgiliau. Felly, mae'n sicr yn ymwneud â'r model cymdeithasol: mae'n ymwneud â'n cael i dderbyn bod pobl anabl yn aml iawn, os nad bob amser, yn meddu ar y sgiliau sydd ar gael iddynt ac mewn gwirionedd, yr hyn sydd angen inni fynd i'r afael ag ef yw cynwysoldeb ein harferion cyflogaeth, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yng Nghymru.

Mae tudalennau gwe ein porth sgiliau busnes yn cynnwys tudalennau penodol erbyn hyn sy'n nodi'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr ac unigolion i'w helpu i gyflogi pobl anabl, ac rydym yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i helpu i ddatblygu pecyn gwybodaeth ar gyfer cyflogwyr ar fynediad at waith, a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth i helpu cyflogwyr i ddod o hyd i gyngor arbenigol i helpu gyda recriwtio pobl anabl. Yn olaf, cyhoeddir cynllun gweithredu anabledd newydd ar gyfer prentisiaethau yn yr hydref eleni a fydd yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ymarferol i chwalu'r rhwystrau i bobl anabl gael mynediad at brentisiaethau.

Gofynnwyd y cwestiwn yng nghyfraniad Nick Ramsay: sut y gallwn ddileu'r rhwystrau i gyfranogiad cyfartal pobl ddall a rhannol ddall yn y gymdeithas? A'r ateb yw y gallwn wneud hynny drwy wella llwybrau cleifion; defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd; gwrando ar y gymuned a gweithredu ar y materion sydd bwysicaf iddynt, megis gwybodaeth hygyrch, cyflogaeth, a'r llwybrau clinigol a bwysleisiwyd gan Dai Lloyd hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi'r pwynt pwysig hwn, a chredaf y gallwn barhau, gyda'n gilydd, i wneud Cymru'n esiampl yn y maes hwn. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:14, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:14.