Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:41, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch iddo am dawelu fy meddwl, gyda rhan gyntaf ei ateb o leiaf. Mae ail ran ei ateb, fodd bynnag, yn codi cwestiynau. A yw'r Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth i'r achos yn y Goruchaf Lys rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar ddeddfwriaeth parhad yr Alban? Wrth gwrs, buaswn yn dadlau na ddylem ddiddymu ein Deddf parhad ar unrhyw gyfrif, ond does bosib, o safbwynt y Llywodraeth, na fyddent yn awyddus i aros am ganlyniad achos y Goruchaf Lys rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, gan y byddai hynny'n newid wyneb y trefniant datganoli a'r dulliau o ymadael â'r UE yn gyfan gwbl ar draws yr ynysoedd hyn pe bai gennym un weinyddiaeth ddatganoledig â tharian amddiffynnol o ddeddfwriaeth parhad a ninnau wedi cael gwared ar ein hun ni yn wirfoddol ac yn ddiangen. Felly, a yw'n gallu sicrhau bod y Llywodraeth yn barod i oedi, os bydd angen, hyd nes y gwyddom beth fydd canlyniad achos y Goruchaf Lys?