Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:42, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Ddirprwy Lywydd, amddiffynnwyd buddiannau Cymru yn y Goruchaf Lys gan fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, a ymyrrodd i sicrhau, lle roedd buddiannau Cymru yn y fantol, fod y Goruchaf Lys yn ymwybodol iawn ohonynt. Wrth gwrs, nid wyf yn cytuno â'r Aelod y byddem yn ddiamddiffyn pe baem yn diddymu'r Bil parhad, gan ein bod wedi ymrwymo i gytundeb rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DU sy'n rhoi dewis amgen inni yn ein tyb ni, ac yn wir, set well o amddiffyniadau yn yr amgylchiadau y lluniwyd y Ddeddf parhad i fynd i'r afael â hwy.