1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 10 Hydref 2018.
5. Pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal i sicrhau y bydd cronfeydd strwythurol yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru ar ôl Brexit? OAQ52725
Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi codi'r mater hwn dro ar ôl tro gyda Gweinidogion y DU. Byddaf yn gwneud hynny eto yng nghyfarfod pedairochrog y Gweinidogion cyllid, a fydd yn cynnwys Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, ddydd Mercher yr wythnos nesaf.
Gan gyfeirio'n ôl at gyllid teg i lywodraeth leol, yma yng Nghymru, mae gennym fformiwla wirioneddol dryloyw, ond mae ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt a gyhoeddwyd ddoe yn dangos bod siroedd Torïaidd wedi bod yn cipio tir, ac mai pobl dlawd yn ardaloedd ôl-ddiwydiannol gogledd Lloegr sydd wedi talu am hynny. Felly, mae lleoedd fel Lerpwl, Gateshead a Wigan wedi dioddef toriadau o hyd at 50 y cant mewn gwariant llywodraeth leol, o gymharu â'r shires cyfoethog, sydd wedi dioddef toriadau un digid yn unig i'w cyllid.
Nawr, nid hyn yn argoeli'n dda ar gyfer y ffordd y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn cael ei gweithredu, os yw hynny'n mynd i ddigwydd drwy wleidyddiaeth pot mêl, oherwydd mae wedi bod yn allweddol—[Torri ar draws.] Mae wedi bod yn allweddol fod—. Mae cronfeydd strwythurol yr UE wedi bod yn gwbl allweddol ar gyfer creu miloedd o swyddi, gan sicrhau cyflogaeth i filoedd o bobl. Y rheswm pam mai ni sy'n derbyn y swm mwyaf o arian gan Ewrop yw am mai ni yw'r ardal fwyaf difreintiedig, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir o ran y ffordd y bydd y gronfa ffyniant gyffredin honedig hon yn cael ei gweithredu. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi inni fod Llywodraeth y DU yn cydnabod nad yw datblygu ac adfywio economaidd, o dan Ddeddf Cymru 2017, yn fater a gedwir yn ôl? A sut y gallwn ddatrys y mater cyfansoddiadol ac ariannol pwysig hwn?
Wel, Ddirprwy Lywydd, diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'n llygad ei lle fod astudiaeth Prifysgol Caergrawnt a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon yn awgrymu mai pwerau datganoledig sydd wedi caniatáu i Lywodraethau'r Alban a Chymru liniaru'r toriadau mwyaf llym a wnaed i lywodraeth leol yn Lloegr, lle dywedant mai 'dwysáu anghyfiawnder tiriogaethol' yw egwyddor arweiniol gweithredoedd Gweinidogion y DU.
O ran y gronfa ffyniant gyffredin, er fy mod yn anghytuno â'r hyn a ddywedwyd yn gynharach gan Steffan Lewis pan oedd yn cyfuno'r gronfa ffyniant gyffredin a'r cytundeb rhynglywodraethol, er nad oes unrhyw berthynas rhwng y ddau, roeddwn yn cytuno â'r pwynt a wnâi yn ei hanfod. Mae Cymru'n cael arian drwy'r Undeb Ewropeaidd am fod gennym angen y mae'r arian hwnnw ar gael i'w ddiwallu. Dylai Gweinidogion y DU gadw at yr addewid a wnaeth aelodau'r blaid lywodraethol yn y refferendwm: cafwyd sicrwydd pendant, yn ôl yr hyn a gofiaf, na fyddai Cymru'n colli'r un geiniog—[Torri ar draws.] Dim ceiniog—sicrwydd pendant na fyddai Cymru ar ei cholled. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arian a ddaw i Gymru heddiw yn gwireddu'r addewid a wnaed, ac yn ail, mae'n rhaid iddo ddod i Gymru. Mae'n rhaid iddo fod o dan reolaeth y Cynulliad hwn. Mae'n rhaid gwarantu hynny. Dylai'r ymgynghoriad ar y gronfa ffyniant gyffredin fod ar gyfer Lloegr yn unig, yn union fel roedd yr ymgynghoriad ar ddiwygio'r polisi amaethyddol cyffredin yn ymgynghoriad ar gyfer Lloegr yn unig. Credaf fod hynny'n gyson â chasgliadau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol pan ystyriwyd y mater hwn ganddynt. Pan fyddaf yn mynd i Lundain yfory, ac eto yr wythnos nesaf, byddaf yn dweud hynny'n gwbl glir gyda fy nghymheiriaid o'r Alban.