Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:46, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb esboniadol hwnnw. A gaf fi droi at fater arall yn awr, a gwn eich bod o ddifrif am y mater hwn—sef bwlio, yn enwedig yng nghyd-destun ysgolion? O ystyried y digwyddiad trasig diweddar yn Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd yn Llanelli, lle cyflawnodd bachgen ifanc, Bradley John, a oedd yn dioddef o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, hunanladdiad ar safle'r ysgol oherwydd bwlio, a yw arweinydd y tŷ yn fodlon fod pob ysgol yn trin bwlio mewn ffordd briodol? Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, roedd rhieni'r bachgen wedi cwyno bod eu mab yn cael ei fwlio ar sawl achlysur ond nodwyd y cwynion hyn fel 'digwyddiadau' yn unig.