Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 10 Hydref 2018.
Mae gennym raglen wrth-fwlio helaeth iawn—unwaith eto, gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, sydd â chyfrifoldeb dros y rhaglen ysgolion. Rydym yn cefnogi nifer fawr o ddatblygiadau cwricwlwm. Yn ddiweddar rydym wedi cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r canllawiau ar berthnasoedd iach a pherthnasoedd rhywiol. Rydym yn cefnogi, er enghraifft, ymgyrchoedd Dewch Allan dros LGBT Stonewall Cymru, ac rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda nifer fawr o sefydliadau eraill sydd ag aelodau sy'n dioddef troseddau casineb yn arbennig, er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn lleoedd diogel iawn, yn ogystal â gweddill ein cymdeithas. Felly, mae gennym fframwaith mawr a helaeth iawn y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio ag ef er mwyn sicrhau nad ydym yn cael y math hwnnw o ymddygiad.