– Senedd Cymru am 3:33 pm ar 10 Hydref 2018.
Eitem 6 ar yr agenda yw cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, ac a gaf fi alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol?
Cynnig NDM6825 Elin Jones
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27—Gorchmynion Adran 116C’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2018; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n sylweddoli y bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn pasio, ac er mwyn sicrhau effeithlonrwydd yr hyn sydd angen inni ei wneud, credaf y bydd yn rhaid inni dderbyn hynny. Fodd bynnag, byddai wedi bod lawer yn well pe baem yn diwygio Rheol Sefydlog 25 y prynhawn yma i ddarparu ar gyfer yr anghenion newydd sydd gennym mewn perthynas â phwerau trethu.
Mewn ymateb i ddewis y Pwyllgor Busnes, awgrymodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—ac rwy'n credu y bydd y Cadeirydd yn siarad yn nes ymlaen—Reol Sefydlog 25 newydd. Yn rhyfedd iawn, rydym yn awr yn gorfod derbyn Rheol Sefydlog 27 ranedig. Fel mae'n digwydd, dyma'r Rheol Sefydlog anghywir, oherwydd mae'n torri'r drefn resymegol a osodwyd yn y Rheolau Sefydlog, ac i bob pwrpas mae'n gosod Rheol Sefydlog newydd o fewn Rheol Sefydlog sy'n bodoli'n barod. Nid yw hyn yn glir nac yn dryloyw, a bydd yn cael effaith fawr ar unrhyw un sy'n ceisio darllen ein Rheolau Sefydlog, i ddeall sut yr ymdrinnir â'r materion hyn.
Mae'r broses hon wedi cael ei gwneud hyd yn oed yn fwy astrus gan y mecanweithiau adrodd y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddynt. Nid wyf am ddiflasu'r Cynulliad â'r rhain oll, ond mae'n ymddangos fel pe bai'n dweud y dylai fod mecanwaith adrodd ar waith, ond nid yw'r pwyllgor cyfan yn rhan ohono, dim ond y Cadeirydd. Er nad oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y Cadeirydd yn ddiwyd wrth ymarfer ei ddyletswyddau, nid yw hon yn weithdrefn gadarn. Rhaid imi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod y gwelliant hwn yn anghelfydd a gobeithiaf na chaiff ei ailadrodd.
Rydw i'n falch iawn o allu siarad i'r cynnig yma i ddiwygio Rheolau Sefydlog. Rydw i'n siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac ar ran Mick Antoniw, y Cadeirydd.
Ym mis Ebrill eleni, ysgrifennodd y Pwyllgor Busnes atom fel pwyllgor yn gofyn am ein barn am y newidiadau oedd yn cael eu cynnig i'r Rheolau Sefydlog, yn ymwneud â chraffu ar Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 116C o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae adran 116C o Ddeddf 2006, fel rydych chi i gyd yn gwybod, yn caniatáu ychwanegu neu addasu, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, bwerau deddfu'r Cynulliad mewn perthynas â threthiant, fel y mae David Melding newydd ei ddweud. Bydd y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn nodi sut mae'r pwerau trethiant yn cael eu newid.
Gofynnodd y Pwyllgor Busnes am ein barn ni fel pwyllgor ynghylch a oeddem yn gweld unrhyw reswm i beidio â datblygu gweithdrefn briodol o fewn Rheol Sefydlog 27. Mae Rheol Sefydlog 27 yn ymwneud â chraffu ar is-ddeddfwriaeth. Wrth geisio ein barn, cawsom ein cynghori gan y Pwyllgor Busnes fod Llywodraeth Cymru yn ei hystyried yn broblem adlewyrchu Rheol Sefydlog 25, sy'n nodi'r broses ar gyfer craffu ar Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf 2006. Mae adran 109 yn ymwneud ag addasu pwerau deddfwriaethol presennol y Cynulliad.
Yr hyn roeddem ni yn ei ffafrio oedd cynnwys Rheol Sefydlog newydd, ar wahân: Rheol Sefydlog 25A. Roeddem yn teimlo fel pwyllgor, ni waeth beth fyddai'r dull a fabwysiadwyd, y byddai Rheol Sefydlog newydd yn gorwedd yn fwy cyfforddus o fewn strwythur presennol y Rheolau Sefydlog. Byddai hyn wedi golygu y byddai Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chaffael cymhwysedd deddfwriaethol—sef Rheolau Sefydlog 25 a 25A—yn dod cyn y rhai sy'n ymwneud â defnyddio'r cymhwysedd hwnnw i wneud deddfau—Rheolau Sefydlog 26A, 26B a 26C—ac na fyddent yn dod o fewn cwmpas Rheol Sefydlog 27. Mae'r Rheol Sefydlog hon yn ymwneud â chraffu ar is-ddeddfwriaeth a wneir yn ddieithriad o ganlyniad i bwerau a gaiff eu dirprwyo o Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol neu Senedd y Deyrnas Unedig i Weinidogion Cymru.
Fel rydym wedi ei ddweud droeon fel pwyllgor, mae'n bwysig bod deddfau yn hygyrch i ddinasyddion. Mae'r un mor bwysig bod y ffordd y mae'r Cynulliad yn gweithredu, drwy ei weithdrefnau, yn hygyrch hefyd. Ar sail hynny, roeddem yn teimlo bod ein hateb yn cynnig ffordd gliriach, fwy trefnus a mwy hygyrch o symud ymlaen. Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid hefyd a fyddai'n well cael Rheol Sefydlog annibynnol newydd ar gyfer y Rheolau Sefydlog, yn hytrach nag integreiddio i mewn i Reol Sefydlog 27.
Yn sgil penderfyniad y Pwyllgor Busnes, rydym ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am esboniad pam roedd Llywodraeth Cymru yn ei hystyried yn broblem i roi Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 116C o Ddeddf 2006 i'r un broses graffu â'r rhai o dan adran 109, a pham roedd Llywodraeth Cymru yn teimlo hefyd y byddai'r weithdrefn newydd yn gorwedd yn well yn Rheol Sefydlog 27, yn hytrach na Rheol Sefydlog 25A newydd.
Rydym ni hefyd wedi nodi o adroddiad y Pwyllgor Busnes, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'r ymrwymiadau a roddwyd i ategu'r broses a ddewiswyd, yn cwrdd â Chadeirydd ein pwyllgor ni i roi gwybodaeth iddo, yn dilyn cyfarfodydd gyda Chyd-bwyllgor y Trysorlysoedd. Felly, rydym ni wedi gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam mai dim ond y Cadeirydd, yn hytrach na'r pwyllgor cyfan, y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gwrdd. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi nodi y bydd yn adolygu effeithiolrwydd y trefniadau newydd maes o law a byddem yn falch iawn o gynorthwyo gydag unrhyw adolygiad o'r fath. Diolch yn fawr.
Galwaf yn awr ar arweinydd y tŷ, Julie James, i ymateb i'r ddadl.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd dros dro.
Sefydlwyd Rheol Sefydlog 25 i ymdrin â Gorchmynion adran 109, fel yr oeddent yn bodoli o dan y setliad datganoli cyn 2011—yr hen Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol neu GCD yn y trydydd Cynulliad. Er bod Gorchmynion adran 116C yn ymwneud â datganoli pwerau trethu newydd i'r Cynulliad, maent yn wahanol i Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol; ni fyddant ond yn cael eu cyflwyno ar ôl cyfnod o ymgynghori a negodi ac ar sail consensws rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Nid yw proses ddau gam y GCD, lle mae Gorchmynion arfaethedig a drafft yn destun craffu, yn briodol yn y sefyllfa hon. Mae'r Llywodraeth wedi rhoi nifer o ymrwymiadau ynglŷn â'r wybodaeth a ddarperir i'r Cynulliad yn ystod y cyfnod negodi cyn i Orchymyn adran 116C gael ei gyflwyno. Nodir y rhain yn adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Mae Gorchymyn adran 116C yn eitem o is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae'r Rheol Sefydlog 27 bresennol eisoes yn darparu ar gyfer y rhan fwyaf o'r weithdrefn sy'n angenrheidiol ar gyfer craffu ar Orchmynion 116C. Rydym yn ystyried y byddai cynnwys y weithdrefn yn Rheol Sefydlog 27 yn arwain at gydgrynhoi Rheolau Sefydlog ar gyfer is-ddeddfwriaeth. Mae'r dull hwn yn osgoi dyblygu gweithdrefnau mewn Rheolau Sefydlog gwahanol, gan helpu gyda hygyrchedd a thryloywder. Yr wythnos diwethaf, cytunodd y Cynulliad ar yr un drefn ag ar gyfer Rheol Sefydlog 27 ar gyfer offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gadael yr UE.
Hefyd, codwyd mater yr argymhelliad i ddarparu sesiwn friffio i'r Cadeirydd, fel cynrychiolydd y pwyllgor, er mwyn sicrhau y gellid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ar gynnydd y negodiadau mewn modd amserol. Fel y gallwch ddeall, bydd hyn yng nghyd-destun cyfrinachedd a pherthynas rynglywodraethol, ond yng ngoleuni sylwadau gan aelodau amrywiol y Pwyllgor Busnes, rwy'n gwbl sicr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fwy na pharod i ystyried opsiynau eraill er mwyn sicrhau bod y pwyllgor cyfan yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf, pe baent yn ystyried hynny'n ddefnyddiol.
Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt rhwng ein swyddogion ynghylch trefniadau ar gyfer rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bwyllgorau'r Cynulliad ynglŷn â gweithrediad y peirianwaith cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol. Mae'r Llywodraeth yn agored iawn i sefydlu trefniadau priodol. Gallwn ymdrin â materion sy'n ymwneud â Chyd-bwyllgor y Trysorlys, er enghraifft, yn y cyd-destun hwnnw. Fel y dywedodd Dai Lloyd yn ei sylwadau wrth gloi, mae'r broses fel y'i sefydlwyd gan adran 116C o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn newydd. Mae'r Llywodraeth yn fwy na pharod i adolygu ei hymrwymiadau a'r newidiadau i'r Rheolau Sefydlog, os cytunir arnynt heddiw, yng ngoleuni'r profiad o'u gweithredu. Diolch.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.