Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 16 Hydref 2018.
Wel, fel y dywedwch, cawsoch eich geni a'ch magu yng Nghymoedd y De ac rwy'n deall hanes a harddwch y dirwedd. Yn amlwg, ni chefais i fy ngeni a'm magu yng Nghymoedd y De, ond gallaf eich sicrhau fy mod yn gwerthfawrogi hanes yr ardal yn llawn ac rwyf wrth fy modd â harddwch y dirwedd, ac, wrth gwrs, y bobl wych sy'n byw yno.
Rydych yn dweud eich bod wedi gweithio'n agos gyda'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Cyfeiriasoch at nifer fawr o gyfarfodydd a sgyrsiau. Cyfeiriasoch at dreftadaeth naturiol a diwylliannol y Cymoedd fel rhywbeth a ddylai ddarparu'r cefndir i sicrhau dyfodol newydd ar gyfer yr ardal. Ond, yn yr ysbryd o gyd-gynhyrchu, yn yr ysbryd o ddeddfwriaeth Cymru yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sut fydd hynny'n mynd y tu hwnt i ymgynghori a dylunio hyd yn oed i ddarpariaeth ar y cyd y tu allan i'r sector statudol, nid yn unig gyda chyrff sefydledig ond trwy gyrraedd a datgloi cryfderau ac asedau o fewn y bobl yng nghymunedau'r Cymoedd?
Pam, yn eich barn chi, yn neunawfed flwyddyn Llywodraeth Cymru, pan gynhyrchwyd y ffigurau swyddogol diwethaf, fod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal yr isaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU, er gwaethaf y biliynau a gafodd eu gwario ar adfywio economaidd a gwrth-dlodi, gydag Ynys Môn ar y gwaelod, ar 52 y cant, Gwent heb fod yn bell ar ei hôl ar 56 y cant, a'r Cymoedd canolog ar 63 y cant o'r DU ar gyfartaledd? Gobeithio y byddwch yn ateb hynny yng nghyd-destun, er enghraifft, Gwlad Pwyl, a ddechreuodd mewn sefyllfa debyg ar y man cychwyn, ond caeodd y bwlch, tra bod Cymru mewn termau cymharol wedi mynd tuag yn ôl. Os ydych yn penderfynu cymryd dull clasurol adweithiol Llywodraeth Cymru i ymateb yn erbyn Llywodraeth y DU a beio'r Torïaid, cofiwch eich bod yn siarad â gor-ŵyr i löwr, y cafodd ei dad ei hun ei ddiswyddo ym 1978, a weithiodd i gwmni gweithgynhyrchu a oedd yn un o nifer a syrthiodd oherwydd y chwalfa economaidd, ac a ddioddefodd y canlyniadau fel teulu. Gobeithiaf, felly, na fyddwch yn fy nhrin yn nawddoglyd gydag ymatebion ystrydebol yn unol â hynny.
Rydych yn cyfeirio at y cyhoeddiad o £7 miliwn o gyllid cyfalaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i sefydlu parc rhanbarthol y Cymoedd yn y gyllideb ddrafft dros ddwy flynedd. Cyfeiriais at y Gorllewin a'r Cymoedd, sy'n cynnwys pedair sir yn y Gogledd, sy'n cynnwys ardaloedd gyda'r ffyniant lleiaf—hyd yn oed yn is na Gwent, fel y cyfeiriwyd ato. Felly, sut maen nhw yn rhan o'r darlun hwn? Ble mae eu cronfa adfywio gyfatebol nhw ? Oherwydd mae'r Gorllewin a'r Cymoedd, o dan y disgrifiad gwerth ychwanegol gros, yr ydym ni'n dal i weithio oddi tano gan ein bod ni'n dal yn yr UE, yn cynnwys pedair sir yn y Gogledd, ac mae'r rhan dlotaf yn y Gogledd-orllewin.
Rydych yn briodol yn cyfeirio at gyfleoedd ar gyfer rhagnodi cymdeithasol gwyrdd—rhywbeth yr ydym ninnau hefyd yn ymroddedig iawn iddo fel rhan o'r agenda ehangach ar gyd-gynhyrchu. Yn amlwg, cafwyd nifer o gynlluniau sydd wedi methu â chynnau'r adfywio a'r twf yn y Cymoedd, gan y gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, y dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
'iddi gael ei rhoi ar waith yn wael oherwydd diffygion sylfaenol yn nhrefniadau goruchwylio a llywodraethu Llywodraeth Cymru'.
Nid oedd hyn yn annhebyg i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 2009 ynghylch Cymunedau yn Gyntaf, y gofynnais i iddynt ei gynnal—yn wir, wnaeth hynny ond cynhyrchu maes parcio newydd yng Nghastell-nedd— neu ardal fenter Glynebwy, sydd wedi methu â chynhyrchu unrhyw gymorth ystyrlon i greu swyddi lleol, neu gwymp Cylchdaith Cymru. Sut fyddwch chi felly yn gwneud pethau'n wahanol er mwyn sicrhau nad yw'r buddsoddiad hwn yn ddim mwy na phlaster glynu ar gyfer anghenion hirdymor pobl yn y rhanbarth hwnnw?
Gorffennaf, gobeithio, ar nodyn mwy adeiladol a gobeithiol, ond credaf fod angen ateb y cwestiynau hyn. Mae'r rhaglen hon wedi cyflwyno cynllun cenhadon twristiaeth cymunedol, y mae gennyf i yn bersonol diddordeb mewn dod i wybod mwy amdano. Cefais i fy magu, wrth gwrs, yn y Gogledd, gyda Thwristiaeth Gogledd Cymru, sydd, rwy'n credu, â 1,500 o aelodau, a 3,000 o bobl os ydych yn cynnwys y rhai o fewn y grwpiau aelodaeth hynny—neu 3,000 o sefydliadau yn y grwpiau aelodaeth. Sut fyddwch chi'n sicrhau bod y cynllun cenhadon twristiaeth cymunedol hwn nid yn unig yn ymgysylltu â'r sector statudol a'r trydydd sector, ond hefyd â darparwyr lletygarwch a thwristiaeth, er mwyn sicrhau y gellir gwasgu'r botymau gyda'i gilydd er budd pawb?