Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 16 Hydref 2018.
Dirprwy Lywydd, rwyf mewn hwyliau rhyfeddol o dda ac yn hael y prynhawn yma, bydd yr Aelodau yn falch o glywed. Felly ni fyddaf yn derbyn gwahoddiad llefarydd y Ceidwadwyr i droi'r ddadl hon y prynhawn yma yn anghytundeb pleidiol nac yn gystadleuaeth rhwng rhanbarthau Cymru. Credaf y byddai'r ddau gynnig yn ffordd anghywir o fynd ati i ateb y ddau gwestiwn, y cwestiynau teg iawn, a ofynnodd imi, ond hefyd y math o ddadl y credaf y dylem fod yn ei chael y prynhawn yma.