Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 17 Hydref 2018.
Os ydym i leddfu'r pwysau ar ein GIG, rhaid inni ymdrin â mater cymorth ac adnoddau ar gyfer gwasanaethau ataliol. Un gwasanaeth o'r fath yw gofal y tu allan i oriau. Mae'n ffaith bod gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau yn hollbwysig ar gyfer lleddfu'r pwysau ar wasanaethau brys yng Nghymru. Yn ddiweddar, cynhyrchodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ac arolwg a ganfu fod bron 700,000 o bobl yn cysylltu â'r gwasanaeth y tu allan i oriau bob blwyddyn yng Nghymru. O'r staff a ymatebodd i'r arolwg, dywedodd 66 y cant nad yw'r gwasanaethau'n ddigon hyblyg i ateb y llanw a'r trai yn y galw. Roedd 46 y cant yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf fod y morâl yn dda. Er bod cleifion yn gweld gwerth gwasanaethau y tu allan i oriau, nid yw'r safonau cenedlaethol yn cael eu cyrraedd oherwydd problemau staffio a morâl isel.
Ni allai fy mwrdd iechyd lleol fy hun, Aneurin Bevan, lenwi oddeutu 2,300 o sifftiau gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau. Ar ddim llai na 27 diwrnod gwahanol, nid oedd gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ar gael ar draws y bwrdd iechyd cyfan am o leiaf 30 munud. Yn y chwe mis rhwng mis Hydref 2017 a mis Mawrth 2018, nid oedd gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ar gael ar draws y rhanbarth cyfan am dros 53 awr. Am gyfnod o bum niwrnod ym mis Chwefror, roedd mwy na hanner y sifftiau meddyg teulu y tu allan i oriau heb eu llenwi.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae'r cynllun gweithredu'n galw am roi camau ar waith ar unwaith i ymateb i'r argyfwng. Maent yn dweud bod gwendidau yn y system bresennol ar draws y wlad yn peryglu gofal cleifion, a mwy o bwysau ar adrannau achosion brys. Dywedodd y coleg eu bod wedi galw am bum cam hanfodol a chyraeddadwy i helpu i drawsnewid gofal meddyg teulu y tu allan i oriau yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys mynd i'r afael â'r problemau allweddol sy'n wynebu ymarfer cyffredinol yn yr hinsawdd bresennol.
Er gwaethaf ymrwymiadau maniffesto'r Blaid Lafur i wella mynediad at feddygon teulu, mae'n dod yn fwyfwy anodd i gleifion allu gweld eu meddyg teulu. Canfu ymchwiliad newyddion gan y BBC yn gynharach eleni mai ond mewn dau fwrdd iechyd yng Nghymru y gall claf weld eu meddyg teulu yn hwyrach gyda'r nos. Ledled Cymru, mewn saith bwrdd iechyd, dim ond chwarter y cleifion meddyg teulu oedd yn cael cynnig apwyntiadau hyd at 6.30 p.m. gyda'r nos ddwywaith yr wythnos, a dim ond 20 y cant o feddygfeydd meddygon teulu Cymru oedd yn gallu cynnig apwyntiadau yn gynnar yn y bore cyn 8.30 a.m. o leiaf ddwywaith yr wythnos. Nid yw'n ryfedd fod cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi dweud, yn ei eiriau ef,
Gyda'r diffyg adnoddau a dim buddsoddiad newydd mewn gwasanaethau y tu allan i oriau, nid yw'n syndod fod meddygon teulu'n teimlo eu bod wedi blino gormod i weithio y tu allan i oriau.
Mae'r pwysau ar feddygon teulu bellach yn ddifrifol. Mae nifer y meddygon teulu newydd sy'n ymuno â'r gweithlu yng Nghymru ar ei lefel isaf ers degawd ar hyn o bryd. Dim ond 129 meddyg teulu yn unig a ychwanegwyd at y gweithlu yn 2016-17. Mae'r nifer sy'n gadael y gwasanaeth bellach ar ei lefel uchaf yn y ddau ddegawd diwethaf; gadawodd 212 y gwasanaeth dros yr un cyfnod, sy'n llawer mwy nag a ddaeth i mewn.
Lywydd, mae'r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i fynd i'r afael â'r pwysau ar wasanaethau gofal y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans. Credaf y byddai cynllun o'r fath yn sicrhau gwelliant sylweddol i gleifion yng Nghymru, ac mae'n haeddu cefnogaeth y Cynulliad hwn heddiw. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn gwrando. Nid yw pawb yn y Siambr hon yn gwrando, ond ar yr ochr hon i'r Siambr o leiaf mae pawb ohonom yn edrych ymlaen at weld gwasanaeth iechyd gwell yn y wlad hon. Mae gennych dros un rhan o dair o'r gyllideb, ond ble mae'r gwasanaethau i'r bobl? Rwyf eto i'w gweld. Diolch i chi.